SUT Y CAIFF TAI CYNGOR EU DOSBARTHU?
Pan gaiff cais ei gofrestru ar y rhestr, mae nifer arbennig o “bwyntiau” yn cael ei ddyfarnu iddo i adlewyrchu’r angen am Dþ a ffactorau arbennig eraill sydd yn cael eu cymryd i ystyriaeth hefyd.
PA MOR HIR Y MAE YMGEISYDD YN GORFOD AROS AM LE I FYW?
Mae hi’n anodd iawn ateb y cwestiwn yma - ond byddwn yn rhoi rhyw syniad ichi pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i adael ichi wybod bod eich cais wedi’i dderbyn a’i roi ar y Rhestr Aros.
Mae yna nifer o ffactorau, yn cynnwys:
A) Eich amgylchiadau chi (a’r lefel “pwyntiau”)
B) Y lle i fyw yr ydych ei angen sydd ar gael yn eich dewis ardal a,
C) Anghenion pobl eraill
SUT Y CAIFF TAI EU CYNNIG?
Bydd pob cynnig yn cael ei wneud yn ysgrifenedig i’r darpar denant.
Yn amgaeëdig bydd dau Gytundeb Tenantiaeth - os byddwch yn derbyn - dylai un copi o’r Cytundeb Tenantiaeth gael ei ddychwelyd inni cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn eich gwahodd i weld yr eiddo, pryd y byddwn yn penderfynu pa atgyweiriadau sydd angen eu gwneud cyn ichi symud i mewn a pha un a oes unrhyw atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys y gellir eu gwneud wedi ichi symud i mewn.

Rhoi adborth ar y tudalen hon