Newidiadau Pwysig i Gynllun y Diwydiant Adeiladu, Ebrill 2007
Mae'r cynllun newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar Statws Cyflogaeth ac ar gynnal Gwiriadau o'r holl Isgontractwyr (i ddibenion treth).
Nid fydd angen Gwiriad ar yr Isgontractwyr presennol (y rhai sydd wedi eu talu gan Gyngor Sir Ddinbych o fewn y ddwy flynedd diwethaf), ond mae'n bosibl y bydd holiadur Statws Cyflogaeth yn cael ei gyflwyno iddynt.
Bydd angen i bob Is-gontractwr newydd fodloni'r Cyngor ynglŷn â'i Statws Cyflogaeth, a bydd angen iddo gyflwyno'r wybodaeth ganlynol er mwyn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) allu cynnal Gwiriad :
Cyfeirnod Masnachu Unigryw (UTR)
Enw'r Cwmni (fel y mae wedi ei gofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi)
Rhif Yswiriant Gwladol a/neu Rif Cofrestru'r Cwmni
Gallai methu â gwneud hyn ddeillio ar daliad hwyr, neu ar gyfarwyddyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi i'r Cyngor ddidynnu treth yn ôl y gyfradd uwch.
Mae manylion llawn ar gael ar wefan HMRC :
http://www.hmrc.gov.uk/new-cis/

Rhoi adborth ar y tudalen hon