| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk


Ysgol Clawdd Offa
Ysgol Clawdd Offa

Cyflwyniad

Mae Ysgol Clawdd Offa yn ysgol gynradd newydd yn ardal Prestatyn. Bydd lle i 420 o ddisgyblion llawn amser, a meithrinfa, bydd yn cynnig llety hyblyg ar gyfer y cwricwlwm, y cyfnod sail yn benodol a rhoddi pwyslais ar sgiliau Cyfnod Allweddol 2 y Gorchmynion Cwricwlwm newydd. Bydd yr adeilad yn manteisio ar y cynllun a'r dechnoleg ddiweddaraf a ymgorfforwyd er mwyn sicrhau cynaladwyedd hir dymor yr Ysgol.


Elfennau allweddol y cynllun

Bwriadwyd yr adeilad newydd i gyfarfod gofynion darpariaeth addysg y ganrif hon gan gynnwys y nodweddion canlynol:

• Llefydd Ysgol Uwchradd hyblyg mewnol yn ystafell ddosbarth y Babanod.
• Ystafelloedd dosbarth cell i'r adran Iau – fel y gellid symud y waliau pe bai angen hynny heb effeithio ar strwythur yr adeilad.
• Ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer cwricwlwm cyfnod sail hefo mynediad uniongyrchol a diogel o'r llefydd dysgu tu mewn.
• Rhaid i bob ardal ddysgu gael mynediad uniongyrchol i'r tu allan
• Ystafelloedd cymunedol gan gynnwys cegin y gellir ei defnyddio gan grwpiau allanol a darparwyr gwasanaeth.
• Ystafelloedd tiwtorial bychan ac ystafelloedd ymgynghori, ac ystafelloedd i staff weithio.
• Neuadd aml ddefnydd a stiwdio sy'n cynnig hyblygrwydd ar gyfer Addysg Gorfforol, Dawns/Drama/Perfformio, bwyta, ymgynnull, etc.
• Rac beiciau a lle i storio beiciau hefo cawodydd ac ystafelloedd newid.
• Casglu dŵr glaw, system gasglu dŵr i'w ail ddefnyddio fel dŵr toiled .
• Paneli gwres o'r haul i gynhesu dŵr.
• Gwres dan y llawr i wneud y mwyaf o'r lle sydd ar y waliau  .
• Rhwydwaith Technoleg Gwybodaeth integredig
• System cynhaliaeth i reoli a rhoi adroddiad ar egni a'r defnydd o ddŵr, y gwres etc.
• System sbrinclwr dŵr trwy'r holl adeilad, pwrpasol o'r dechrau .

Mae'r prosiect yn cynnwys adeiladu ffordd newydd i gael mynediad i'r safle ac ailfodelu'r briffordd bresennol.


Manteision y cynllun

Bydd y prosiect ar ôl ei gwblhau yn cynnig manteision i'r gymuned leol :

• Mwy o lefydd addysg cyfrwng Saesneg ym Mhrestatyn ar gyfer datblygiad tai yn y dyfodol .
• Lleihau pwysau ar letyaeth ysgolion lleol.
• Lleihau pwysau traffig ym Mhrestatyn - yn arbennig wrth neu ger safleoedd Ysgolion Cynradd eraill
• Amgylchedd ddysgu flaengar a chyfleusterau i ddisgyblion cynradd 
• Cyfleusterau addysg modern a deniadol a chyfleusterau hamdden sydd ar gael i grwpiau cymunedol a darparwyr gwasanaeth.
• Gwella mynediad i ysgolion a threfnu patrymau modern o deithio i'r Ysgol
• Gosod system sbrinclwr yn yr hen adeiladau ac yn yr adeilad newydd.

Cyllideb

Cyllideb y prosiect yw £8.275 miliwn, a ddarperir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.


Amserlen

Medi 2005 - dechrau ar y broses ymgynghori
Awst 2006 - derbyn cymeradwyaeth y Gweinidog Addysg
Ebrill 2007 - dechrau ar y safle (am 66 wythnos)
Ebrill 2007 - penodi Llywodraethwyr 
Ionawr 2008 - penodi Pennaeth
Awst 2008 - cwblhau'r gwaith adeiladu
Medi 2008 - agor yr Ysgol i'r disgyblion
Hydref 2008 - agoriad swyddogol– manylion i'w cadarnhau.


Newyddion diweddaraf 

Agorodd Ysgol Clawdd Offa ei drysau ddydd Llun, 8 Medi a bu Jane Hutt AC yn ei hagor yn swyddogol mewn seremoni ddydd Iau, 9fed Hydref.

Diweddarwyd y dudalen hon ar: 30/10/08

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0