| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Treth y Cyngor - Gostyngiadau i bobl gydag Anabledda

Treth y Cyngor - Gostyngiadau i bobl gydag Anableddau

Gall y sawl sy'n agored i'r dreth wneud cais am ostyngiad yn eu bil dan y Rheoliadau Anableddau.
Mae gostyngiad yn gymwys os yw un o'r canlynol yn nodwedd ar yr annedd, a bod ei hangen gan ei bod yn hanfodol neu o bwys mawr i les person anabl (plentyn neu oedolyn) sy'n byw yn yr annedd, oherwydd natur a maint ei anabledd/ei hanabledd.

a)ystafell heblaw ystafell ymolchi, cegin neu doiled a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl
b)ail ystafell ymolchi neu gegin
c)lle ychwanegol o fewn yr eiddo er mwyn i gadair olwyn allu mynd o gwmpas.

Wrth benderfynu a yw'r amod hwn yn berthnasol, dylai awdurdodau ystyried pa un, pe na byddai'r ystafell neu'r nodwedd ychwanegol ar gael

i) a fyddai'r person anabl yn ei chael hi'n  gorfforol amhosibl neu'n eithriadol o anodd byw yn yr annedd
ii) a fyddai ei iechyd/hiechyd yn dioddef neu a fyddai'r anabledd yn debygol o fynd yn fwy difrifol.

Bydd y gostyngiad yn golygu ailfandio i'r band yn union o dan yr un a ddangosir yn y rhestr brisio ar gyfer yr eiddo hwnnw.  Dim ond un gostyngiad y gellir ei roi, hyd yn oed os yw'n cymhwyso dan fwy nag un o'r amodau uchod.  Nid oes dim gostyngiad yn gymwys i eiddo sydd eisoes ym Mand A. 

Gellir cymhwyso gostyngiadau i sefydliadau preswyl yn ogystal ag i anheddau preifat.

Rhaid gwneud cais ffurfiol er mwyn i'r awdurdod ganiatáu gostyngiad anabledd. Bydd angen gwybodaeth ategol i brosesu eich cais.  Llythyr gan feddyg neu rywun proffesiynol arall yn cadarnhau maint yr anabledd, a'i ganlyniadau.  Bydd angen cais newydd bob blwyddyn er na fydd angen yr wybodaeth ategol gan y meddyg.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0