Bandiau Treth y Cyngor
Rhaid rhoi pob annedd yn un o wyth band at ddibenion Treth y Cyngor. Wrth brisio eiddo y cwestiwn i'w ofyn yw, "Am faint fyddai'r annedd wedi gwerthu ar 1/4/2003?"
Bandiau Treth y Cyngor
Band A hyd at £44,000
Band B £44,001 i £65,000
Band C £65,001 i £91,000
Band D £91,001 i £123,000
Band E £123,001 i £162,000
Band F £162,001 i £223,000
Band G £223,001 i £324,000
Band H £324,001 i £424,000
Band I £424,001 a throsodd
Cynigion i newid y rhestr brisio
Mae rhestr brisio sy'n dangos pob annedd a'i fand yn bodoli ar gyfer ardal pob Awdurdod Bilio. Gellwch gynnig newidiadau i restr brisio mewn perthynas â'ch cartref mewn ychydig o amgylchiadau.
Dyma'r amgylchiadau hynny :-
1. Ble na ddangosir yr annedd ar y rhestr brisio.
2. Ble dylai'r annedd gael ei dileu oddi ar y rhestr brisio.
3. Ble bu gostyngiad o bwys yng ngwerth yr annedd.
4. Ble bu cynnydd o bwys yn y gwerth a gweithrediad masnachol perthnasol diweddarach (lle mae cynnydd o bwys yn estyniad a lle mae gweithrediad masnachol perthnasol yn golygu gwerthu'r rhydd-ddaliad neu'r brydles)
5. Ble mae eiddo yn mynd yn eiddo cyfansawdd neu'n peidio â bod felly.
6. Ble mae cynnydd neu ostyngiad yn nefnydd teuluol eiddo cyfansawdd.
7. Ble rydych wedi derbyn hysbysiad oddi wrth y swyddog rhestru yn rhoi gwybod ichi ei fod wedi newid y rhestr.
8. Ble rydych yn ystyried nad yw'r swyddog rhestru wedi cymryd penderfyniad perthnasol tribiwnlys prisio neu'r Uchel Lys i ystyriaeth.
9. Os ydych yn drethdalwr newydd mewn perthynas ag annedd fe ellwch wneud cynnig i newid y rhestr brisio o fewn 6 mis ichi ddod yn drethdalwr.
AM RAGOR O WYBODAETH AC I ATEB YMHOLIADAU FFONIWCH ASIANTAETH Y SWYDDFA BRISIO AR WRECSAM (01978) 200000


Rhoi adborth ar y tudalen hon