Apeliadau Prisiant
Apeliadau Bandio
Am apêl yn erbyn rhestr prisiad 2005, bydd rhaid i'r apêl gael ei wneud cyn y 30 Medi 2006
Am apêl yn erbyn rhestr prisiad 1993, bydd rhaid i'r apêl gael ei wneud cyn y 31 Rhagfyr 2005 gyda'r darpariaethau canlynol
Os ydych yn teimlo bod eich eiddo wedi’i roi yn y band anghywir, mae gennych yr hawl i apelio. Cewch apelio hefyd os ydych yn meddwl na ddylai eich eiddo ymddangos yn y Rhestr Brisiant o gwbl.
Gall apêl gael ei gwneud gan y preswylydd sy’n agored i dalu’r dreth, neu berchennog yr eiddo os yw hwnnw neu honno’n rhywun gwahanol.
Dylai sail unrhyw apêl fod yn ddigonol i achosi i’r eiddo gael ei roi mewn band gwahanol, pe byddai’r apêl yn llwyddiannus.
Sut bynnag, gall apêl bandio ond gael ei gwneud yn yr amgylchiadau canlynol:-
- Ÿ O fewn chwe mis ichi ddod yn drethdalwr newydd eiddo
- Ÿ O fewn chwe mis i eiddo newydd gael ei ychwanegu at y Rhestr Brisiant
- Ÿ Bod eiddo’n cael ei rannu’n rhannau, neu fod cyfuno wedi digwydd
- Ÿ O fewn chwe mis i’r Swyddog Prisio eich hysbysu bod y Rhestr i’w diwygio
- Ÿ Bu newid yn stad neu yng nghyflwr ardal y gymdogaeth o amgylch yr eiddo
- Ÿ Mae’r eiddo cyfan, neu ran ohono, wedi’i ddymchwel
Bydd y Swyddog Prisio, y mae’i gyfeiriad wedi’i ddangos isod, yn gallu eich hysbysu o’ch hawliau apelio.
Y Swyddog Prisio Grwp
Grwp Gogledd Cymru
Swyddfa Brisio Wrecsam
Regent House
Regent Street
Wrecsam
LL11 1PR
01978 200000
Hyd yn oed er y byddwch o bosibl yn penderfynu apelio neu eich bod wedi apelio’n barod, mae’n rhaid ichi ddal i dalu’r dreth fel y gofynnwyd hyd nes bydd eich apêl wedi’i setlo. Os bydd eich apêl yn llwyddo, byddai eich cyfrif yn cael ei addasu’n unol â hynny.
Nid yw gwneud apêl yn rhoi hawl i chi atal talu Treth y Cyngor.
I gael rhagor o wybodaeth am Dreth y Cyngor, a fyddech mor garedig â chysylltu â:
Ty Russell
Ffordd Churton
Y Rhyl
LL18 3DP

Rhoi adborth ar y tudalen hon