Beth sy’n digwydd os byddwch yn hwyr yn talu neu ddim yn talu?
Mae gennych hawl Statudol i dalu Treth y Cyngor drwy 10 rhandaliad misol o fis Ebrill i fis Ionawr. Ond, os caiff eich bil ei ddosbarthu ar ôl mis Ebrill, fe fydd gennych lai o randaliadau. Gellwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o dalu Treth y Cyngor dan ‘Adran Sut i Dalu’.
Dywed y gyfraith ei bod yn rhaid ichi dalu eich rhandaliadau erbyn y dyddiad dyledus, sef y 5ed a’r 10fed o’r mis ar gyfer taliadau arian parod a siec (er y gall talwyr Debyd Uniongyrchol yn unig ddewis talu ar y 4ydd, 15fed, 22ail neu’r 30ain o’r mis). Mae taliadau blynyddol yn ddyledus erbyn 30ain Ebrill ac mae taliadau hanner blynyddol yn ddyledus erbyn y 30ain Ebrill a’r 30ain Hydref. Mae taliadau wythnosol arian parod yn cychwyn ar 14eg Ebrill, am 45 wythnos ar y mwyaf. Os na fyddwn yn derbyn taliadau erbyn y dyddiadau dyledus, mae’n rhaid inni gymryd camau ar unwaith yn ôl y gyfraith. Mae’r gyfraith yn gosod y drefn y mae’n rhaid inni ei dilyn (y ‘Drefn Adfer’).
Y Drefn Adfer
- Os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad dyledus, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch. Bydd hyn yn caniatáu ichi ddod â’ch taliadau’n gyfredol o fewn 7 diwrnod ac yna barhau i dalu yn ôl y rhandaliadau statudol.
- Os byddwch yn syrthio’n ôl gyda’ch taliadau eto, byddwn yn anfon ail nodyn atgoffa atoch. Bydd hyn yn caniatáu ichi ddod â’ch taliadau’n gyfredol eto o fewn 7 diwrnod a pharhau i dalu trwy randaliadau misol. Ni fyddwn yn anfon unrhyw nodyn atgoffa pellach os na fydd rhandaliadau yn y dyfodol yn cael eu talu’n brydlon gan y bydd yr hawl i randaliadau yn cael ei cholli.
- Os byddwch yn syrthio’n ôl eto, byddwn yn anfon rhybudd terfynol atoch. Erbyn yr adeg yma, rydych wedi colli eich hawl i dalu trwy randaliadau a bydd rhaid ichi dalu’r balans llawn sy’n ddyledus o fewn 7 diwrnod i’r rhybudd terfynol.
- Os na fyddwch yn talu’r swm a ddangosir ar nodyn atgoffa neu rybudd terfynol o fewn 7 diwrnod, byddwn yn anfon gwþs atoch i ymddangos yn Llys yr Ynadon. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid ichi dalu costau llys o £50.00, o leiaf.
- Os na fyddwch yn talu’r swm ar yr wþs, yn cynnwys y costau, erbyn dyddiad y gwrandawiad, byddwn yn gofyn i’r ynadon am Orchymyn Dyled, sy’n rhoi pwerau penodedig i’r Cyngor gasglu’r Dreth Cyngor gyda chostau llys ychwanegol o £30.00.
Wedi i Orchymyn Dyled gael ei Ganiatáu
Ar ôl caniatáu’r gorchymyn dyled mae gan yr awdurdod nifer o opsiynau penodedig ar gael i gasglu’r swm sy’n ddyledus:-
- Yr opsiwn sydd orau gennym ydi gwneud trefniant i dalu.
- Mae’r gyfraith yn dweud ei bod yn rhaid ichi roi gwybodaeth bersonol inni, megis enw a chyfeiriad eich cyflogwr, a manylion eich cyflog neu unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn. Byddwn yn gofyn am yr wybodaeth yma hyd yn oed os ydych wedi gwneud trefniant talu gyda ni. Os na rowch chi’r wybodaeth yma i ni, neu os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir, fe all yr awdurdod fynd â chi yn ôl i’r llys ble gallech gael eich dirwyo, gyda chostau ychwanegol.
- Os ydych yn gweithio, gallwn ddefnyddio Gorchymyn Atafael Enillion fel ei bod yn rhaid i’ch cyflogwr, trwy gyfraith, gymryd arian allan o’ch cyflog a’i dalu’n syth i ni.
- Os ydych yn cael Ategiad Incwm neu Lwfans Ceiswyr Swydd, gallwn ofyn i adran y llywodraeth sy’n ei dalu gymryd arian allan o’ch budd-dâl a’i dalu’n syth i ni.
- Gallwn ddefnyddio beilïaid i fynd â’ch meddiannau i ffwrdd a’u gwerthu mewn arwerthiant i dalu eich Treth Cyngor. Bydd y beilïaid yn codi costau ychwanegol arnoch.
- Ÿ Os oes arnoch dros £750.00 inni, gallwn wneud cais i’ch gwneud yn fethdalwr. Bydd yn rhaid ichi dalu costau, bydd eich cyfrif banc yn cael ei rewi ac fe allech gael eich gorfodi i werthu eich cartref, hyd yn oed os oes gennych forgais.
- Os oes arnoch £1,000.00 neu fwy inni a’ch bod yn berchen ar eich tþ neu bod gennych forgais arno, gallwn gael Gorchymyn Tâl fel, os byddwch yn ei werthu, y bydd eich dyled yn cael ei thalu cyn ichi dderbyn unrhyw arian o’r gwerthiant. Eto, bydd rhaid ichi dalu costau ychwanegol hefyd.
- Os nad ydym yn gallu casglu’r swm sy’n ddyledus trwy’r dulliau uchod, byddwn yn anfon gwþs i chi i ymddangos yn Llys yr Ynadon i egluro i’r ynadon paham nad ydych wedi talu eich Treth Cyngor. Os byddant yn gweld eich bod wedi bod yn euog o ‘wrthodiad bwriadol’ neu ‘esgeulustod beius’, gallant eich anfon i garchar am gyfnod o hyd at 3 mis.

Rhoi adborth ar y tudalen hon