Cyflwyniad
Mae gan Sinema'r Scala hanes sy'n dyddio nôl i 1910 pan ddangosid y ffilmiau cynharaf yno. Yn anffodus, erbyn mis Rhagfyr 2000 mae cyflwr gwael yr adeilad wedi gorfodi ei gau. Datgelwyd cynlluniau newydd i'r sinema newydd ar y safle yn 2003, a dilyn hynny hefo cyfnod o weithgareddau dwys i sicrhau digon o arian. Gan fod digon o arian ar gael, dechreuodd y gwaith i greu sinema newydd a chanolfan gelf ym mis Chwefror 2007. Ar ôl ei gwblhau bydd y lleoliad newydd yn darparu adloniant, hamdden, diwydiant creadigol, cyfleusterau cymdeithasol, a man gwybodaeth i dwristiaid.
Elfennau allweddol y cynllun
Cedwir blaen gwreiddiol yr adeilad a'i adfer, ond tu ôl iddo mae sinema a chanolfan gelf fodern. Bydd yr adeilad yn cynnwys :
• Sinema 150 sedd hefo system ddigidol diffiniad uchel
• Theatr stiwdio 150-sedd fydd hefyd yn cynnwys system ddigidol ond y gellir ei ddefnyddio mewn perfformiadau byw (drama, dawns, miwsig, etc), cynadleddau ac arddangosfeydd
• Ystafelloedd Cymunedol y gellir eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant ac addysg, ymarferion, etc.
• caffi/bar y gellir ei ddefnyddio i gael coffi / bwyd i siopwyr a defnyddwyr y Scala, cael diod cyn ac ar ôl perfformiad, partïon plant, etc.
• Derbynfa a chyntedd y gellir eu defnyddio hefyd fel man arddangos
• Man gwybodaeth i dwristiaeth hefo gwybodaeth am gyfleusterau a gweithgareddau lleol.
Mantais y cynllun
Ar ôl ei gwblhau bydd y Scala yn creu:
• Sinema ddigidol gyntaf Cymru
• Cyrchfan ddiwydiannol ac adloniant pwysig i ogledd Cymru
• Cyfle i gael hyfforddiant a dysgu, yn benodol mewn sectorau twf cyfryngau ac adloniant
• Cyfleusterau ardderchog i grwpiau cymunedol a busnesau lleol
• Lleoliad i gynadleddau ac arddangosfeydd hefo budd i fusnesau lleol
• Gwella golwg Prestatyn trwy ail ddatblygu adeiladau gwag a gwaith ail-wneud cysylltiedig â golwg hanesyddol yr adeilad.
Cyllideb
Y gyllideb i'r prosiect yw £3.5 miliwn, a darparwyd arian gan:
• Llywodraeth Cynulliad Cymru.
• Contract Tymor Prestatyn
• Cyngor Sir Ddinbych
• Cyngor Celfyddydau Cymru
• Sefydliad Chwaraeon a Chelfyddydau
• Cyngor Ffilm y DU
Amserlen
Chwefror 2007 – dechrau ar y safle
Awst 2008 – cwblhau gwaith adeiladu
Tachwedd 2008 – rhedeg adeiladau
Newyddion diweddaraf
Mae'r gwaith o fewn sinema'r Scala ym Mhrestatyn yn awr yn barod:
Gosodwyd seddi yn y ddau auditorium.
- Trosglwyddo o R L Davies (y contractwr) i Gyngor Sir Ddinbych ar ddydd Llun, 22 Medi 2008.
- Gosodwyd rig goleuadau yn yr ail auditorium.
- Gosodwyd paneli acwstig yn y ddau auditorium.
- Cwblhawyd gosod y llwyfan a gosodir y sinema erbyn ddiwedd mis Hydref gyda'r bwriad o brofi a chomisiynu.
- Gosodir y cownter tocynnau erbyn 31 Hydref .
- Mae Newman Online wedi bod yn llwyddiannus mewn tendr am y system docynnau.
- Lliwiau'r adeilad yw oren, coch, brown, llwyd, du, gwyrdd llachar a melyn!
Cafodd y dudalen hon ei ddiweddaru olaf ar : 01/10/08


Rhoi adborth ar y tudalen hon