Amcanion Prynu
Er mwyn i’r gwasanaeth osgoi dyled mae’n rhaid i Gontractau ar gyfer cyflenwi bwyd fod mor gystadleuol â phosibl. Er hyn – fyddwn ni byth yn rhoi bwyd o ansawdd gwael i blant Sir Ddinbych.
Gan fod Sir Ddinbych yn awdurdod bychan, ac er mwyn i ni gael mwy o ‘bwer prynu’ rydym wedi ymuno â Chonwy, Sir y Fflint, a Wrecsam i ffurfio contractau cyflenwi bwyd.
Mae'r Gwasanaethau Arlwyo wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol ac rydym yn defnyddio cyflenwyr lleol ble bynnag bo hynny’n bosibl.

Rhoi adborth ar y tudalen hon