Gwaith Allgymorth
Beth ydyw?
Mae Gwaith Ieuenctid Maes ac Allgymorth yn fath o waith ieuenctid a gyflwynir i bobl ifanc y tu allan i ganolfannau hamdden. Mae gweithwyr yn mynd i ardaloedd lle mae pobl ifanc yn dewis dod at ei gilydd, ble bynnag bydd hynny. Mae projectau nodweddiadol Maes/Allgymorth yn cynnwys anfon dau weithiwr ieuenctid sy’n gweithio ar y stryd a chysylltu â phobl ifanc. Mae gwaith maes ac allgymorth yn dodi ffocws penodol ar ddiwallu anghenion pobl ifanc nad ydynt efallai yn cysylltu â gwasanaethau ieuenctid traddodiadol. Mae gweithwyr yn canolbwyntio ar adeiladu perthynas wirfoddol, ceisio gweithio fel tîm gyda phobol ifanc mewn lleoliadau lle maent yn dod at ei gilydd – strydoedd, caffis, parciau ac ati.
Gellir diffinio rôl projectau maes/allgymorth fel a ganlyn:
• Cael eu targedu’n benodol at leoedd lle mae pobl ifanc yn dewis dod at ei gilydd.
• Anelu at wneud cysylltiad gyda phobl ifanc ar eu telerau hwy trwy negodi gofalus.
• Mae timau’n ceisio datblygu parch a hygrededd gyda’r bobl ifanc y maent yn eu cyfarfod.
• Cefnogi pobl ifanc trwy gynnig cyfleoedd dysgu sy’n datblygu hyder a sgiliau trwy amrywiol weithgareddau.
• Cefnogi pobl ifanc wrth gymryd penderfyniadau positif sy’n effeithio eu bywydau hwy.
• Cadw cyfrinachedd.
• Rhoi mynediad i adnoddau i bobl ifanc.
• Rhoi cyfle i bobl ifanc drafod materion sy’n eu heffeithio hwy a’u cymuned.
• Rhoi gwybodaeth a chyfarwyddyd.
• Herio agweddau ac ymddygiad.
Pryd?
Ar hyn o bryd, mae 3 project maes/allgymorth yn Sir Ddinbych. Lleolir y rhain yn Ninbych, Melyd a Llandyrnog. Mae’r timau yn yr ardaloedd fel a ganlyn:
Y Rhyl Gorllewin – Bob dydd Llun – 6-8pm
Bruton Park, Y Rhyl – Bob dydd Mawrth – 6-8pm
Llanelwy – Bob dydd Mawrth – 6:30-8:30pm
Dinbych – Bob dydd Mawrth – 6:30-8:30pm
Llandyrnog – Bob dydd Mercher – 6:30-8:30pm
Llanelwy – Bob dydd Iau – 6:30-8:30pm
Gallt Melyd – Bob dydd Iau – 6.30-8.30pm

Rhoi adborth ar y tudalen hon