| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
10/04/2007 - Gwobr i dîm tai Cyngor Sir Ddinbych

Mae Strategaeth Dai Fforddiadwy Sir Ddinbych  wedi cyrraedd rhestr fer mewn dau gategori'r diwydiant dai a lwyfennir yn Llundain yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Mae'r Cyngor Sir wedi dod ar y rhestr fer o wobrau ‘Providing Housing Choice and Affordability’ ac  ‘Outstanding Achievement in Housing in Wales’ yn yr 'UK Housing Awards', a lwyfennir ar 8fed Tachwedd.

Meddai'r Cynghorydd Pauline Dobb, Aelod Arweiniol Cabinet Iechyd a Lles: “Mae cael enwebiad a bod ar restr fer dwy wobr dai yn adlewyrchiad o ymroddiad staff o fewn ein hadrannau Tai, Cynllunio a Chyfreithiol sy'n gweithio'n ddi-flino i wella amodau pobl ifanc ar draws y sir .

“Dyma'r ail waith i'r Cyngor Sir wneud rhestr fer am y wobr 'UK Housing Awards' gan ddangos bod y diwydiant tai yn gweld y gwaith a wneir yn Sir Ddinbych yn enghraifft o ymarfer gorau a gwerth y wobr. Byddwn yn croesi'n bysedd i gael llwyddiant.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0