Ein gwaith
Mae gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn gorfodi amrediad o wahanol ddeddfwriaethau i warchod defnyddwyr a busnesau lleol. Hefyd, rydym yn ymateb i gwynion neu geisiadau am wasanaeth i wneud archwiliad rheolaidd o weithgareddau busnes a busnesau rhyngrwyd lleol.
Yn ogystal â gweithio'n glos hefo gwasanaethau Safonau Masnach eraill trwy'r wlad rydym yn gweithio mewn partneriaeth hefo awdurdodau gorfodi ac asiantau eraill megis yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, DEFRA ac eraill.
Mae'r math o waith a wneir yn dod yn bennaf o dan y ddeddfwriaeth 'droseddol' sy'n golygu yn hytrach na datrys materion trwy adfer prynwyr i'w cyflwr gwreiddiol neu geisio iawndal, mae'r gosb am dorri rheolau yn golygu dirwyon a / neu garchar.
Enghreifftiau o'n gwaith yw:
• stampio offer pwyso a mesur fel offer addas i'r fasnach a'i fod yn gywir, er enghraifft, mesurau diodydd mewn tafarndai, pympiau petrol a chloriannau mewn siopau
• sicrhau nad yw cerbydau wedi'u gorlwytho ar y ffordd neu'n gollwng gormod o bwysau trwy'r echel ar arwyneb y ffordd gan achosi difrod i strwythur y ffordd. Mae cerbyd sydd wedi'i orlwytho yn berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd achos os bydd yn cario gormod o bwysau bydd hynny yn effeithio ar effeithlonrwydd y cerbyd wrth frecio.
• bod pob cerbyd a werthir yn ddiogel i fod ar y ffordd
• bod masnachwyr yn disgrifio'n gywir ac onest eu nwyddau a'u gwasanaethau fel na chamarweinir y cwsmer i wneud unrhyw bryniant, er enghraifft datganiad am y milltiroedd a wnaeth y cerbyd, cyfleusterau a gynigir ar wyliau
• bod hysbysebion am gredyd a chytundebau yn cynnwys y lleiafswm o wybodaeth fel y gall defnyddwyr wneud penderfyniad neu ddewis gwybodus
• bod bwyd yn cario labeli sy’n rhoi gwybodaeth am bethau megis cynnwys y cynnyrch a hefyd nodi'r dyddiad i'w ddefnyddio
• bod nwyddau defnyddwyr yn ddiogel i'r pwrpas neu i'r pwrpas a ragwelir iddynt
• bod busnesau sy'n storio petrol, nwyddau fflamadwy, Tân Gwyllt neu wenwyn wedi eu trwyddedu neu eu cofrestru i wneud hynny hefo’r Awdurdod Lleol
• bod cynnyrch cyfyngedig i oed penodol ddim yn cael eu gwerthu i bobl dan oed. Pwrpas y ddeddfwriaeth yw, nid rhwystro pobl rhag defnyddio'r cynnyrch ond yn hytrach, gwarchod Iechyd a Lles unigolion a chymunedau
• bod unigolyn, neu fusnesau ddim yn manteisio ar bobl ddiymgeledd er enghraifft, masnachwyr teithiol yn cynnig atgyweirio'r to neu’r dreif ond heb wneud y gwaith neu weithiau'n gwneud y sefyllfa'n waeth. Mae Safonau
Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio'n rheolaidd hefo Heddlu Gogledd Cymru i rwystro masnachwyr twyllodrus lwyddo.

Rhoi adborth ar y tudalen hon