| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Diwrnod ym mywyd Swyddog Safonau Masnach

Diwrnod arwyddol ym mywyd Swyddog Safonau Masnach

Teitl: Uwch Swyddog Safonau Masnach ac Arolygydd Pwysau a Mesurau

08:20 Cyrraedd y swyddfa.
Darllen e-byst - derbyn 'Rhybudd Cenedlaethol' am degell trydan anniogel sy'n cael eu gwerthu ar y farchnad ym Mhrydain.
08:50 Casglu offer profi a ffurflenni angenrheidiol i fynd i archwilio adeiladau masnachu.
09:05 Gadael y swyddfa
09:15 Ymweliad cartref yn Rhuddlan, a drefnwyd ddoe, am waith a dalwyd amdano ond na wnaed gan fasnachwr teithiol.
10:10 Cyrraedd modurdy yn Ninbych i brofi pympiau petrol am fesurau cywir.
11:35 Ymweld ag adeilad yn Rhuthun ble gwelodd person lleol rywun yn gwerthu rhywbeth a gyfyngir o ran oedran. Cynghori'r gwerthwr am yr honiad a gweld pa systemau sydd ganddynt i warchod yn erbyn hyn. Gwneir pryniant arbrofol gan yr adran hefo gwirfoddolwyr dan oed er mwyn monitro eu bod yn cadw at y rheoliadau.
11:55 Archwilio offer pwyso, dyddiadau, prisiau a'r gofrestr gwrthod gwerthu i bobl dan oed mewn archfarchnad fawr.
13:10 Cinio
13:40 Archwilio metr cwrw, optics gwirodydd i weld a ddangosir yn glir rybuddion statudol, mewn dwy dafarn.
14:45 Prynu fel prawf o selsig porc iw anfon at y dadansoddwr cyhoeddus i archwilio cynnwys y cig a'r cynhwysion.
15:30 Prynu anffurfiol gnau mwnci i brofi am afflatoxins a bresych savoy am ôl pla laddwyr.
16:35 Dychwelyd i'r swyddfa. Delio hefo rhestr ar fy nesg o ymholiadau ffôn a ddaeth yn ystod fy absenoldeb.
17:05 Gorffen gwaith am y diwrnod.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0