Datblygiadau Tai Fforddiadwy a Chyfleoedd Tai Presennol:
Rhestr o dai fforddiadwy newydd:
Yn dod yn fuan !
Fel mae ceisiadau cynllunio'n cael eu caniatáu a meini prawf tai fforddiadwy'n cael eu cadarnhau, ein nod yw rhestru'r ardaloedd ble mae tai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu a ble byddant ar gael i'w gwerthu neu i’w rhentu i'r rhai ar y Gofrestr Berchentyaeth Cost Isel neu’r Gofrestr Tai.
Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch y tai a fydd ar gael fel perchentyaeth cost isel, maint y tai hynny, y ddaliadaeth yn ogystal â gwybodaeth ar sut y bydd y Tai Fforddiadwy'n cael eu gwerthu neu’u rhentu. (Gallai’r cartrefi fod ar gael naill ai’n uniongyrchol gan y Datblygwr neu drwy Gymdeithas Dai Lleol).
I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod ar y Gofrestr Perchentyaeth Cost Isel neu ar y rhestr Dai.
Am wybodaeth bellach ar sut i gymhwyso ar gyfer y Cofrestrau hyn neu i gael ffurflen gais cysylltwch â’r Tîm Tai Fforddiadwy yng Nghymdeithas Tai Clwyd ar 0845 2303140 neu ymwelwch â’u swyddfeydd yn 54 Stryd y Dyffryn, Dinbych, LL16 3BW.

Rhoi adborth ar y tudalen hon