| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cyngor ar gyfer Datblygwyr

Mae prinder tai a phrisiau uchel yn y DU wedi gwthio’r Llywodraeth i ymateb gyda rhaglen adeiladu uchelgeisiol.   Mae £3.3 biliwn o arian cyhoeddus wedi’i glustnodi ar gyfer tai fforddiadwy yn ystod y tair blynedd nesaf, gyda rhagor i ddilyn.

Fodd bynnag, yn bwysicach, mae’r Llywodraeth wedi gosod gofynion cynllunio ar gyfer datblygwyr i ddarparu tai o ansawdd am brisiau fforddiadwy. Golyga hynny y bydd unrhyw brosiect dros faint penodol yn Sir Ddinbych yn gorfod cynnwys tai ar gyfer y sector tai cymdeithasol a chost isel.

Mae cyfle i chi elwa o’r twf adeiladu’n enfawr.  Ond mae cyllid yn dibynnu ar gyfarfod â’r targedau cynaliadwyedd sy’n codi a gofynion Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sydd hyd yn oed yn anoddach ac â thargedau ansawdd a dulliau adeiladu effeithiol.

 Wrth ymgeisio am Ganiatâd Cynllunio mae’n bwysig eich bod yn cwblhau’r holiadur Tai Fforddiadwy ar ddechrau eich rhaglen.

Bydd yr Awdurdod Cynllunio’n rhoi blaenoriaeth i bob cais sydd â Holiadur Tai Fforddiadwy ynghlwm.   Bydd hynny’n arbed amser ac arian a, gobeithio,  yn cyflymu prosesu’ch cais gan y bydd unrhyw broblemau’n cael eu hamlygu a’u datrys ar ddechrau’r prosiect. 

COFIWCH: Gall unrhyw gais nad yw’n cynnwys yr holiadur gymryd mwy o amser i'w brosesu.

Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol yn rhoi’r cyfan o’r wybodaeth y byddwch ei hangen ac mae ar gael trwy Borth Cynllunio’r gwefan hon.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0