Tai Cost Isel Ar Werth
Fel rhan o’r Cynllun Tai Fforddiadwy, pan fo deiliaid cartrefi, sydd eisoes yn berchen tŷ cost isel, yn penderfynu gwerthu, bydd eu heiddo neu eu rhan ohono’n cael ei ail werthu’n ôl i’r bobl sydd ar y Gofrestr Berchentyaeth Cost Isel. Bydd y tai hyn yn aros ar bris fforddiadwy (canran o werth y farchnad bryd hynny fel sy’n cael ei nodi yn y brydles) neu fel eiddo rhannu perchnogaeth. Bydd unrhyw dai Perchentyaeth Cost Isel neu Rannu Perchnogaeth sy’n dod yn ôl ar y farchnad yn cael eu hysbysebu yn yr adran hon. Rydym yn anelu at ddangos ffotograff i chi o’r eiddo, gwybodaeth fanwl am ei leoliad, faint o ystafelloedd sydd ganddo, ei ddaliadaeth a chost yr eiddo. Hefyd bydd dolen gyswllt neu wybodaeth ynghylch â phwy y dylech chi gysylltu ynghylch prynu’r eiddo.
Mae'r fflat hwn ar gael i'w brynu
trwy gynllun Perchnogaeth Cartref
Cost Isel. Mae gwerth yr eiddo
rhwng £150,000 a £155,000. Bydd
yr eiddo yn cael ei werthu am 64%
o'r gwerth marchnad agored. Pris
gwerthu rhwng £96,000 a £99,200.
Os ydych chi wedi byw neu weithio
yn Llangollen am y 3 blynedd
diwethaf ac nad ydych chi'n gallu
fforddio prynu ar y farchnad
agored, cysylltwch â mi am fwy o
fanylion.Eleri Davies, Cymdeithas Tai Clwyd, 54 Stryd y Dyffryn, DINBYCH LL16 3BW ( 0845 230 3140

Rhoi adborth ar y tudalen hon