Beth yw Tai Fforddiadwy?
Mae Tai Fforddiadwy ar gael ar sawl ffurf. Mae tair ffordd o brynu eich eiddo eich hunan, sef Rhannu Perchnogaeth, Cymorth Prynu (yn amodol ar gyllid) a Pherchentyaeth Cost Isel.
Ein nod yw helpu cymaint o bobl leol ag sy’n bosibl i gael cartrefi sy’n cyfarfod â’u hanghenion. I gyflawni hynny bydd angen i chi lenwi’r ffurflen Aelodaeth Perchentyaeth Cost Isel a chael eich derbyn ar y Gofrestr Berchentyaeth Cost Isel.
Rydym eisiau darparu tai fforddiadwy o ansawdd da ar rent neu ar werth ar gyfer pobl Sir Ddinbych gyda’r cyfan o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o bobl leol.
Rhaid i’r cartrefi hyn aros yn fforddiadwy ac er mwyn sicrhau fod hynny’n digwydd, mae unrhyw dŷ sy’n cael ei werthu’n fforddiadwy’n aros yn fforddiadwy drwy gael ei werthu’n ôl i bobl ar y gofrestr ar ganran o’i werth ar hyn o bryd ar y farchnad sydd i’w gytuno neu drwy gynllun rhannu ecwiti trwy gymdeithas dai (rhannu perchnogaeth)
Beth mae Cyngor Sir Ddinbych yn ei wneud i ddarparu hyn?
Rydym yn helpu darparu tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych wrth:
- Sefydlu rhestr ar y cyd gyda Chymdeithasau Tai lleol er mwyn ein galluogi i gynnig cartrefi i gymaint o bobl ar y rhestr aros ag sy’n bosibl.
- Rydym yn asesu angen pobl Sir Ddinbych am dai yn y dyfodol.
- Rydym yn rhoi tir piau’r Cyngor ar gael ar gyfer tai fforddiadwy.
- Rdym yn defnyddio’n pwerau cynllunio er mwyn sicrhau fod datblygiadau tai preifat yn dynodi canran deg o gartrefi newydd ar werth neu ar rent ar gyfer pobl leol am brisiau fforddiadwy.
- Rydym yn gweithio gyda Chymdeithasau Tai Lleol i gynyddu’r nifer o gartrefi newydd sydd ar rent neu ar werth.
- Rydym yn llwyddo i gael Grantiau Cynulliad Cymru ar gyfer ychwaneg o dai.
- Rydym yn ceisio cael cyhmorhdal i deuluoedd ar incwm isel i’w helpu i brynu cartrefi trwy’r gwahanol gynlluniau.
- Rydym yn helpu’r gymuned hŷn i gael gwybodaeth am gartrefi rhatach gyda chefnogaeth ac yn adeiladu mwy o gartrefi ‘gofal ychwanegol’ ar gyfer y rhai sydd angen cefnogaeth.
Ble i gael rhagor o wybodaeth?
Cysylltwch â’r Tîm Tai Fforddiadwy yng Nghymdeithas Tai Clwyd ar 0845 2303140 i fynd ar y Gofrestr Perchentyaeth Cost Isel neu i ganfod mwy o wybodaeth ynghylch sut i gael eich troes ar yr ysgol dai.

Rhoi adborth ar y tudalen hon