- Gwasanaethau Datblygu
- Adran Personau Canolog
- Adran Trafnidiaeth ac Isadeiledd
- Archwiliad Mewnol
- Ardrethi Busnes
- Asiantaeth Datblygu Cymunedol
- Clerc y Sir
- Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
- Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd
- Cyfathrebiadau Corfforaethol
- Cyfrifo Rheolaeth
- Cyngor a Democratiaeth
- Cyngor Sir Ddinbych yn Cefnogi Busnes
- Cynllunio Argyfwng
- Cysylltwch ar Cyngor
- Difanc.com
- Gofal Cwsmer
- Gwasanaeth Archifau
- Gwasanaeth Cyllid a Pherfformiad yr Amgylchedd
- Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth Plant
- Gwasanaeth Ieuenctid
- Gwasanaeth Llyfrgell
- Gwasanaeth Treftadaeth
- Gwasanaeth y Trysorlys a Chyfrifon Ariannol
- Gwasanaethau Addysg
- Gwasanaethau Amgylcheddol
- Gwasanaethau Cefn Gwlad
- Gwasanaethau Celfyddydau
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Gwasanaethau Hamdden
- Gwasanaethau Tai
- Gwybodaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
- Gyfarwyddiaeth Adnoddau
- Mynediad i Wybodaeth
- Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
- Polisi a Perfformiad
- Prosiectau
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Treth Y Cyngor
- Tudalen Cartref Budd-daliadau
- Twristiaeth yn Sir Ddinbych
- Uned Hawliau Lles
Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
Cyngor Sir Ddinbich,
Neuadd y Sir,
Ffordd Wynnstay,
Rhuthun,
LL15 1YN
Teleffon:
01824 712900
Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth
Mae gan Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ran sylweddol i’w chwarae mewn dargludo’r Weledigaeth ar gyfer Sir Ddinbych. I ategu’r Weledigaeth ar gyfer Sir Dinbych rydym wedi gosod Gweledigaeth i’r Gyfarwyddiaeth. Mae Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth yn arwain ein cynllunio strategol a dargludiad ein gweithrediadau. Mae’r Weledigaeth hefyd yn alinio ein gwaith â Gweledigaeth ehangach Sir Ddinbych ar gyfer 2025. Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth yw:
“Fe ddargludwn wasanaethau ardderchog a chynyddu gofal cymdeithasol da a chyfleoedd tai fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl.
Byddwn yn gwella ein gwasanaethau’n barhaus i ddiogelu pobl, cefnogi annibyniaeth a hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol.”
A) GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
B) GWASANAETHAU TAI
C) STRATEGAETHAU PARTNERIAETH
A. Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnwys timau o arbenigwyr sydd wedi eu hyfforddi. Bydd rhai Timau’n gweithio gyda grwpiau arbennig o bobl, er enghraifft pobl gydag anabledd dysgu. Bydd eraill yn canolbwyntio ar anghenion arbennig fel problemau golwg neu glyw ac eraill ar sefyllfaoedd arbennig, er enghraifft pan fydd ar blant angen eu hamddiffyn. Mae’r Adran yn darparu gwasanaethau i bobl o bob oed:
Gwasanaethau i Oedolion
Bwriad y Gwasanaethau yw cefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain os yn bosib. Gall hyn gynnwys darpariaeth gofal yng nghartref person, seibiant byr, cyfarpar arbennig ac addasiadau i’r cartref, gwasanaethau dydd, a chyngor ar ddeall a hawlio budd-daliadau. Mae’r Adran hefyd yn helpu pobl drwy ddarparu gofal o fewn Cartrefi Preswyl a Chartrefi Nyrsio
Gwasanaethau i Blant
Bwriad y Gwasanaethau yw diogelu, cefnogi a hyrwyddo buddiannau plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r Adran yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr, pobl ifanc ac asiantaethau eraill i gynorthwyo gyda phroblemau sy’n deillio o chwalfa mewn teulu, salwch ac anabledd, problemau ymddygiad, troseddau a chamdriniaeth ieuenctid.
Cefnogi a Datblygu Busnes
Mae gan yr Adran hefyd adran gefnogi sy’n gweithio’n agos â Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd. Dyma wasanaeth Cefnogi a Datblygu Busnes. Amcan y Gwasanaeth hwn yw trefnu a gwella swyddogaethau sylfaenol yr Adran mor dda, fel y gall y staff llinell flaen drosgludo gwasanaeth gwell fyth i’n cwsmeriaid. Golyga hyn sicrhau fod gennym systemau ac ymarferiadau sy’n llwyddo i ddenu a chadw staff, systemau i sicrhau cynllunio a monitro’r gyllideb yn effeithiol a systemau ac ymarferiadau sy’n hyrwyddo cyfathrebu da.
B. GWASANAETHAU TAI
C. Strategaethau Partneriaeth
Mae gan y Gyfarwyddiaeth strategaeth arweiniol i ddatblygu a chydlynu dargludiad y strategaethau allweddol sy’n amcanu i:
• Hyrwyddo Iechyd a Lles Cymdeithasol trigolion Sir Ddinbych
• Dargludo anghenion Fframweithiau Cenedlaethol y Gwasanaeth mewn cydgysylltiad â phartneriaid Iechyd
• Cryfhau darpariaeth gwasanaethau i Blant a Theuluoedd drwy gefnogi datblygu cymuned Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc a chydweithio rhwng asiantaethau gwirfoddol statudol a chymunedol lleol, i hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol.
Mae’r Gyfarwyddiaeth hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyfarwyddiaethau eraill ar rannau allweddol o waith corfforaethol sy’n fanteisiol i bobl Sir Ddinbych. Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys: gwaith i hyrwyddo Sialens Iechyd Sir Ddinbych, Atal Tlodi, Effeithlonrwydd Ynni, Cydraddoldeb Cyfleoedd ac Adeiladau Hygyrch, a gwelliant yng ngwerth maethol prydau bwyd/lluniaeth, gweithio i wella cyraeddiadau a datblygiad addysgiadol Plant sy’n Derbyn Gofal gyda Dysgu Gydol Oes, lleihad yn nifer yr anafiadau a damweiniau gaiff pobl ifanc, gwasanaeth trafnidiaeth i deithwyr sy’n effeithiol ac effeithlon.
Dyma'r Strategaeth Cyfathrebu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Mae ein nodau ar gyfer 2007-10 o safbwynt cyfathrebiadau’n cyfarwyddiaeth wedi eu hamlinellu yn y strategaeth hon, fel y mae ein hamcanion cyffredinol. Mae’r cynllun gweithredu ym mhob adran yn dynodi sut y byddwn ni’n cyflawni’n nodau a chaiff ei adolygu’n flynyddol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon