| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Grŵp Prosiectau Sylweddol
Ffordd

Grŵp Prosiectau Sylweddol

Yn rhan o Adran Trafnidiaeth ac Isadeiledd Cyngor Sir Ddinbych, mae’r Grŵp Prosiectau Sylweddol yn ddarparwr gwasanaeth peirianneg priffyrdd arbenigol i Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru. 

Er bod y cyfrifoldeb am gefnffyrdd yn nwylo Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel Awdurdod Priffyrdd, mae’r Cynulliad yn cyflogi Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru sy’n gweithredu fel Asiant i’r Cynulliad ar gyfer rheoli’r rhwydwaith a chyflawni rhai cynlluniau penodol.  Mae’r Grŵp Prosiectau Sylweddol, fel un o ddarparwyr gwasanaeth Partneriaeth Gogledd Cymru, yn dylunio, caffael ac yn goruchwylio cynlluniau cefnffyrdd ar ran Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru. 

Yn ogystal â’r gwasanaethau arbenigol a gyflawnir ar ran Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, mae’r Grŵp Prosiectau Sylweddol hefyd yn darparu gwasanaethau peirianneg i sicrhau gweithredu Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych ac yn cyflawni rôl allweddol o ran cyflawni gwaith trwsio a gwella sylweddol i rwydwaith priffyrdd y sir. 

Fel un o is-adrannau’r Adran Trafnidiaeth ac Isadeiledd mae’r Grŵp Prosiectau Sylweddol hefyd yn gwneud gwaith i adrannau gwasanaeth eraill yng Nghyngor Sir Ddinbych ac yn gwneud gwaith allanol i rai cleientiaid strategol.  Mae’r gwaith yma yn cynnwys astudiaethau dichonoldeb, cynlluniau amlinellol a dyluniadau manwl a pharatoi’r dogfennau contract ar gyfer cynlluniau priffyrdd yn y sir, cynlluniau Grant Trafnidiaeth a chynlluniau Gwella Amgylcheddol Awdurdod Datblygu Cymru.  

Mae’r Grŵp Prosiectau Sylweddol hefyd yn gwneud gwaith dylunio isadeiledd ar ran adran datblygu ac adfywio economaidd Sir Ddinbych, yn cynnwys ffyrdd mynediad i ystadau diwydiannol ac ysgolion, meysydd parcio a gwagleoedd cyhoeddus eraill. 

Mae’r cynlluniau llwyddiannus a gyflawnwyd gan y Grŵp yn y sir yn ddiweddar wedi cynnwys:

  • Gwaith gwella gwelededd ar gyffordd Ystad Ddiwydiannol Colomendy gyda’r ffordd ddiddosbarth i Drefnant (Ffordd y Graig). 
  • Croesffordd Trefnant
  • Gwelliannau i’r briffordd a’r goleuadau traffig
  • Meysydd chwaraeon aml ddefnydd yng Nghallt Melyd, Prestatyn a Llangollen
  • Llawer o gyfleusterau i feicwyr/cerddwyr drwy’r sir.

Mae’r ffotograffau uchod yn dangos delweddau ‘cyn’ ac ‘ar ôl’ y gwaith gwella a gyflawnwyd yn ddiweddar yng Nghroesffordd Trefnant.  Fel rhan o’r cynllun cafodd y palmant a ddangosir y tu allan i dafarn y Trefnant ei lledu.  Roedd y gwelliannau eraill yn cynnwys uwchraddio’r draeniau, gosod signalau traffig newydd a rhoi wyneb newydd ar y ffordd. 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0