| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Fforwm mynediad lleol Sir Ddinbych - Aelodau

Fforwm mynediad lleol Sir Ddinbych - Aelodau


Mae fforwm mynediad lleol Sir Ddinbych yn cynnwys deunaw Aelod, a restrir isod, fydd yn gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd sef 2006 hyd 2009.

John Hughes OBE     Cadeirydd - Ffermwr a pherchennog parc carafannau gwyliau yn Llandrillo.

Ron Williams*     Is-Gadeirydd - rwyf wedi bod yn cerdded Bryniau Clwyd, Llantysilio, Dyffryn Llangollen a mynyddoedd y Berwyn am dros 40 mlynedd. Rwyf yn Ysgrifennydd Gogledd Cymru cymdeithas  y cerddwyr / Ramblers. Rwyf hefyd yn gweithio hefo mudiadau eraill sef CPRW a Cymdeithas Clawdd  Wat ac yn aelod o bwyllgor Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.

Adrian Walls   Ysgrifennydd y fforwm - swyddog y Cyngor Sir sy'n gyfrifol am swyddogaethau tramwy'r Cyngor. Aelod o sefydliad yr Institute of Public Rights of Way Officers.

Edwina Hart*     Ganwyd yn ne Cymru, a bu yn dirfeddiannwr ac yn cefnogi gweithgareddau Cefn Gwlad yng ngogledd Cymru am 30 mlynedd. Rwy'n dymuno cyfrannu i welliant a chynaladwyedd ein rhwydwaith, yn benodol llwybrau a llwybrau march mwy diogel - at ddefnydd marchogion, cerddwyr a beicwyr.

Fred Cunningham      Pennaeth Coleg Amaeth Llysfasi.

Gwyn Jones        Ffermwr o Nantglyn

Kay Culhane*       Rwyf wedi bod yn cerdded ac yn beicio yng nghefn gwlad dros y rhan fwyaf o'm bywyd ac rwyf wedi gweithio hefo'r Ramblers' Association yn hyrwyddo cerdded, gwella hawliau tramwy a gwarchod harddwch Cefn Gwlad. Rwyf wedi bod yn cerdded yng ngogledd ddwyrain Cymru am dros 30 mlynedd ac rwy'n nabod yr ardal yn dda. Mae Aelodau o'r fforwm yn ymestyn y gwaith yma ar sail ffurf.
Jan Lord      Marchogwraig ac aelod o bwyllgor Llwybrau March Cyngor Sir Ddinbych.

David Berry*      Cerddwr profiadol, awdur cyfres o lyfrau taith am Ogledd Cymru sy'n ysgrifennu'n rheolaidd i gylchgrawn 'Walking Wales'. Syrfëwr Hawliau Tramwy, fu'n gweithio'n ddiweddar hefo Cyngor Cefn Gwlad ar yr arolwg "Countryside Council for Wales Rights of Way Condition Survey 2002". Ymgynghorydd ar gynlluniau twristiaeth i gerddwyr. Rwy'n gobeithio annog mwy o bobl fynd i ddarganfod Cefn Gwlad.

Thomas Merfyn Parry     Ymgynghorydd amaethyddol a cherddwr.
Arnold Pennant*     Ffermwr o Fodfari a Thremeirchion. Mae rhan o'i dir o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Cyn Gadeirydd cangen Clwyd o Gymdeithas Tir a Busnes ac Aelod o Gyngor Cymuned Bodfari. Bydd fy ngwybodaeth eang o faterion Cefn Gwlad o fudd i'r fforwm hwn.
Meirick Lloyd Davies*     Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych 2005, Aelod yn cynrychioli Cyngor Sir Ddinbych.
Chris Marshall*     beiciwr a threfnydd gweithgareddau beicio.
Andrew Reeks      Reidiwr taith Motorcycle.

Gruffudd Roberts     Cerddwr ac Ysgrifennydd Cymdeithas Edward Llwyd.
Shelagh Roberts     Ffermwraig ger Llangollen, tir mynydd a Thwristiaeth.
Peter Scarl      Cerddwr

Val Walker Jones     Cerddwr ac arolygydd llwybrau  ar ran y Ramblers dros ardal Bryniau Clwyd. Aelod o bwyllgor llwybrau  Ramblers Cyngor Sir Ddinbych


* - Aelod ar y fforwm am 2003 - 2006.


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0