Trem Clwyd,
Canol y Dre
Rhuthun
LL15 1QA
Teleffon:
01824 708052
Ffacs:
01824 708039
Mae cyfnod ymgynghorol Arolwg 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi ei ymestyn tan 29 Chwefror 2008 i ganiatáu i bartïon â diddordeb gyflwyno sylwadau pellach. Os hoffech wneud sylwadau ar y cynllun, defnyddiwch y cyswllt ffurflen adborth isod neu cysylltwch â’r awdurdod cydlynu yn uniongyrchol.
Yn y gorffennol roedd Cymru yn dibynnu ar dirlenwi i gael gwared o wastraff tai, masnach a diwydiant. Mae llawer o'r gwastraff yn addas i gael ei ailgylchu, ei ail defnyddio, compostio neu ei adfer fel defnyddiau ac egni gwerthfawr. Mae targedau statudol ar gael i Brydain, Ewrop ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru fel bod pob Awdurdod Lleol yn lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Er mwyn gwneud hyn rydym angen nifer o gyfleusterau newydd ar draws Gogledd Cymru.
Mae'r arolwg cyntaf o gynlluniau gwastraff rhanbarthol 2004 ar y gweill a bydd Ymgynghoriad Cyhoeddus y cyfnod ymgynghorol newydd hwn yn gyfle i bawb gymryd rhan yn y penderfyniadau am dechnoleg gwastraff sydd ar gael a hefyd canfod lleoliadau addas i'w gosod.


Rhoi adborth ar y tudalen hon