Swyddfeydd Arian Parod
Mae yna lawer o leoedd ledled y Sir lle gallwch wneud taliadau a chael gwybodaeth ar wasanaethau’r Cyngor.
Wyddech Chi?
Os ydych yn gwsmer i Ddŵr Cymru gallwch dalu rhandaliadau misol neu wythnosol eich treth dŵr yn unrhyw un o swyddfeydd arian y Cyngor neu ein ciosg taliadau - rydym yn derbyn yr holl ddulliau arferol o dalu ar wahân i gardiau credyd.
Gallwch wneud taliadau mewn Swyddfeydd Arian yn Y Rhyl, Prestatyn a Rhuthun; yn eich ciosg talu yn Llyfrgell Dinbych neu yn un o’r llu Siopau Un Stop yn y Sir. Fe’u dangosir ar y map ar y dde.
Dilynwch y dolenni ar y chwith i gael mwy o wybodaeth ar eich cyfleuster talu agosaf.

