Mae cyfleuster chwaraeon newydd yn Ysgol Bryn Collen ac Ysgol Gwernant yn cynnal seremoni agoriadol yr wythnos hon.
Mae disgyblion o’r ddwy ysgol eisoes wedi bod yn dechrau defnyddio’r cyfleuster ac fe wahoddwyd grwpiau ieuenctid a chymuned i ddefnyddio’r amwynder.
Dechreuwyd cynllunio ar gyfer y cyfleuster yn 2006 pan gyfarfu Prifathrawon y ddwy ysgol â Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych i drafod creu Swît Ffitrwydd y gallai’r plant ei defnyddio yn ystod amser ysgol a thu allan i oriau ysgol.
Gwnaethpwyd cais ariannu ar y cyd i Gyngor Chwaraeon Cymru, i Gronfa Byw’n Weithgar Llywodraeth Cynulliad Cymru’n benodol, am gymorth i weithredu’r prosiect o £45,000. Dyrannwyd £30,000 i’r prosiect ym mis Mawrth gydag arian ychwanegol o wahanol ffynonellau yn cynnwys gwasanaethau hamdden a grant Cymuned. Mae’r arian wedi darparu ystod o gyfarpar ffitrwydd sy’n addas i rai o saith i bedair-ar-ddeg oed. Mae’n cynnwys offer beiciau ymarfer, peiriannau rhwyfo, melin draed a phwysau rhydd. Mae SHOKK, y cwmni sy’n cyflenwi’r offer, hefyd wedi darparu hyfforddiant i 20 o staff o’r Gwasanaethau Addysg a Hamdden.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes “Rydym wrth ein bodd fod misoedd o gynllunio wedi arwain at greu cyfleuster mor werth chweil ar gyfer ieuenctid Llangollen. Mae’r prosiect wedi bod yn gydweithrediad llwyddiannus iawn rhwng ein hysgolion, Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych a chynllun Byw’n Weithgar Llywodraeth Cynulliad Cymru.
“Rydym yn ceisio datblygu ffitrwydd disgyblion ac agweddau positif tuag at fwyta’n iach, amcanion a rennir gan Wasanaethau Hamdden Sir Ddinbych ac ymgyrch Ysgolion Bro.”
Meddai Gweinidog y Cynulliad dros Chwaraeon, Rhodri Glyn Thomas:'Er mwyn gallu mwynhau gwell iechyd, fel cenedl mae’n rhaid i ni gynyddu ein lefelau gweithgaredd corfforol. Caiff y rhaglen arloesol hon ei defnyddio i ariannu gwelliannau i gyfleusterau’r gymuned, gan ei gwneud yn haws i gymunedau lleol ddod yn actif, er enghraifft mewn canolfannau cymuned, neuaddau pentref, neu barciau a mannau gwyrdd eraill.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon