| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
10/17/2007 - Addysg yn brif flaenoriaeth yn Sir Ddinbych

Mae Cynghorwyr Sir Ddinbych wedi addasu un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor i adlewyrchu'r angen i wella safonau addysg yn y Sir.

Y flaenoriaeth a gytunwyd yn 2004 oedd gwella adeiladau addysg ac fe'i cymeradwywyd yn dilyn datblygiad y cynllun cymunedol.  Nawr mae Cynghorwyr wedi cytuno i addasu'r flaenoriaeth a'i ddarllen fel “Gwelliant Ysgol ac Addysg”.

Mae adroddiad  Cambridge - Moderneiddio Addysg - ac adroddiad diweddar Estyn wedi dangos bod angen rhoi mwy o bwyslais ar addysg gyfan a bod angen i'r Cyngor gydnabod pwysigrwydd gwella safonau addysg fel blaenoriaeth gorfforaethol.

Meddai Ian Miller, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: "Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu a gweithredu a throi sylw'r Cyngor at godi safonau a gwella cyrhaeddiad addysgol.

"Un datganiad syml ond clir o gefnogaeth gref y Cyngor i'r hyn a'i fod am roi codi safonau ar dop ei agenda, yw addasu'r flaenoriaeth am Addysg. Mae'r geiriad newydd yn parhau i gwmpasu gwella adeiladau Ysgol : mae'r Cyngor wedi gwneud datblygiadau mawr ers 2004 er bod cryn sialens yn parhau i godi safon holl adeiladau ysgolion i fod yn addas i'r unfed ganrif ar hugain."

Mewn Cyfarfod yn Neuadd y Sir  Rhuthun (dydd Mercher) dywedwyd wrth y Cynghorwyr y byddai gwella ffyrdd a'r byd cyhoeddus yn parhau fel blaenoriaethau eraill y Cyngor.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0