Mae Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i ddefnyddio'r Symbol Anabledd sy'n caniatad i ni ddefnyddio'r symbol 2 dic ar lenyddiaeth recriwtio.
I gymhwyso am y symbol hwn mae angen cyfarfod y pump ymroddiad a restrir isod :-
1. cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag a'u hystyried ar eu galluoedd
2. sicrhau bod cyfrwng ar gael i drafod, unrhyw bryd, ond o leiaf unwaith y flwyddyn, gyda gweithwyr anabl, beth y gall y ddau barti ei wneud i sicrhau bod gweithwyr anabl yn gallu datblygu a defnyddio'u galluoedd
3. ymdrechu i'r eithaf pan fydd gweithwyr yn dod yn anabl i sicrhau eu bod yn aros yn y gwaith
4. gweithredu i sicrhau bod pob gweithiwr yn datblygu'r lefel briodol o ymwybyddiaeth o anabledd sy'n angenrheidiol i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn gweithio
5. adolygu'r pum ymrwymiad yn flynyddol a'r hyn sydd wedi'i gyflawni, cynllunio ffyrdd o wella arnynt a rhoi gwybod i'r gweithwyr a'r Ganolfan Byd Gwaith am y cynnydd sy'n cael ei wneud a chynlluniau'r dyfodol
Bwriad y cynllun yw sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad i'r un cyfleoedd â chyflogedig eraill, nid yn unig pan yn ymuno â'r mudiad ond ar bob cam o'u gyrfa. Ei nod yw sicrhau bod pobl hefo anabledd yn teimlo'n hyderus y bydd eu cyflogwr yn bositif am eu galluoedd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon