| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
10/19/2007 - Angen barn am wasanaethau i bobl hyn

Dowch i lunio dyfodol gwasanaethau i Bobl Hŷn yn Sir Ddinbych trwy fynegi barn am y cynllun .

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Lleol  Sir Ddinbych  wedi drafftio strategaeth cyd gomisiynu i Bobl Hŷn, sy'n amlinellu cynlluniau sut all mudiadau weithio ynghyd er budd Pobl Hŷn y sir .

Mae 5 thema i'r ddogfen :
•        hyrwyddo annibyniaeth a gadael gofal ysbyty a darparu gofal gwahanol .
•        sicrhau bod Pobl Hŷn a gofalwyr yn cael mwy o ddewis a rheolaeth dros eu hiechyd a gofal cymdeithasol a gallu gwneud dewisiadau da.
•        gwella iechyd a lles trwy annog byw yn iach i Bobl Hŷn.
•        cynllunio a  threfnu gwasanaethau i wneud y defnydd gorau o Adnoddau i Bobl Hŷn.
•            darparu model o dai a gofal i Bobl Hŷn fyw mor annibynnol â phosibl tra'n teimlo'n  ddiogel .

I gael mwy o wybodaeth  agorwch gwefan Cyngor Sir Ddinbych: www.denbighshire.gov.uk neu ffoniwch Sue Cunnington Cyngor Sir Ddinbych ar 01824 706558 neu Wendy Hooson Bwrdd Iechyd Lleol  Sir Ddinbych 01745 589909 neu o’r Siopau Un Alwad neu Lyfrgelloedd Sir .

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0