| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
10/22/2007 - Arweinydd a Chabinet Sir Ddinbych yn colli pleidlais o hyder

Mae Cynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi pleidleisio dros Rybudd o Gosb yn mynegi dim hyder yn Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Rhiannon Hughes a'r Cabinet.


Mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Ddinbych a gynhaliwyd yn  Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun heddiw - dydd Llun hyder 22 - pleidleisiodd  23 Aelod o blaid y cynnig a 20 yn erbyn. Roedd 4 Aelod yn absenoldeb o'r Cyfarfod.
Mynegodd y Rhybudd o Gosb ddim hyder ac fe'i llofnodwyd gan 13 Aelod.


Dywedodd y cynnig:


 “Rydym ni isod, fel Aelodau Etholedig Cyngor Sir Ddinbych, yn rhoi rhybudd ein bod yn dymuno galw cyfarfod anghyffredin o'r Cyngor gyda'r unig bwrpas o bleidleisio ar gynnig o ddim hyder yn yr Arweinydd ac yn y Cabinet, fel a ddarperir yn Adran 7.3.5 y cyfansoddiad. Dymunwn nodi ein bod yn gresynu nad yw'r cyfansoddiad yn cynnwys cyfle i gynnig dim hyder mewn un Aelod unigol o'r Cabinet ac felly nid yw ein cais o anghenraid yn dangos ein diffyg hyder ym mhob Aelod o'r Cabinet.”


Yn ôl cyfansoddiad y Cyngor Sir mae pwerau'r Cabinet yn awr ym mynd i'r Prif Weithredwr Ian Miller nes bod Arweinydd a Chabinet newydd mewn lle. Cyhoeddir dyddiad cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir i ethol Arweinydd gyda hyn. Rhaid ei gynnal o fewn 3 wythnos i heddiw.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0