10/22/2007 - Cadarnhau Cyfarfod i ethol Arweinydd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau trefniadau Cyfarfod arbennig i ethol Arweinydd newydd i'r Awdurdod.
Cynhelir y Cyfarfod yn Neuadd y Sir Rhuthun ddydd Mawrth Tachwedd 6 am 10am.
Y dyddiad cau i dderbyn enwebiadau i fod yn Arweinydd fydd 10am dydd Mawrth Hydref 30. Rhaid cael llofnod dau Gynghorydd arall i gadarnhau unrhyw enwebiad. Cyhoeddir yr enwebiadau a'r Cynghorwyr sy'n cefnogi ar yr un diwrnod .
Caiff Pwyllgor Llywodraeth Gorfforaethol sydd i'w gynnal ym Mhrestatyn ei leoli yn Neuadd y Sir Rhuthun a dilynir hynny gan Gyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir .

Rhoi adborth ar y tudalen hon