10/23/2007 - Gohirio'r Cabinet un i un
Mae Cyngor Sir Ddinbych am ddweud wrth breswylwyr ardal Llangollen bod y sesiwn Cabinet un i un oedd i'w gynnal ar Hydref 30 yn Neuadd y Dref yn awr wedi'i ohirio.
Daw hyn ar ôl i Gynghorwyr Sir Ddinbych bleidleisio 23 i 20 o blaid cynnal Rhybudd o Gynnig o ddim hyder yn yr Arweinydd a'i Chabinet mewn Cyfarfod arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir Rhuthun heddiw - dydd Llun.
Trefnir dyddiad newydd unwaith y bydd Arweinydd a Chabinet newydd yn eu swydd. Hoffai Cyngor Sir Ddinbych ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon