| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
10/23/2007 - Cynghorion Busnes i gwmnïau Sir Ddinbych

Mae 63 busnes yn Sir Ddinbych wedi manteisio ar gyfle i rwydweithio a rhannu enghreifftiau o ymarfer da mewn cinio busnes diweddar a fynychwyd gan Ruth Badger, fu bron ag ennill ar sioe The Apprentice y llynedd.

Roedd Ruth, yn westai mewn gweithgareddau yng nghastell Rhuthun a drefnwyd gan dîm cynnal busnes Sir Ddinbych, a thanlinellodd rai cyraeddiadau yn y byd busnes yn ogystal â rhannu gwybodaeth am ei gyrfa fel seren y byd teledu a chyflwynydd ei sioe ei hun sef Badger or Bust.

Cwblhawyd y gweithgaredd gan y cyflwynydd teledu Arfon Haines Davies.

Canmolwyd y gweithgareddau a chafwyd cyfle i rwydweithio a rhannu profiadau.

I gael mwy o wybodaeth  agorwch :  www.denbighshiresupportingbusiness.co.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0