10/24/2007 - Rhybudd am dwyll
Mae adran Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn tynnu sylw preswylwyr at dwyll a gadarnhawyd gan y Post Brenhinol.
Caiff cerdyn ei roi trwy 'r blwch llythyrau gan gwmni o'r enw PDS (Parcel Delivery Service) yn awgrymu eu bod wedi methu dosbarthu parsel a bod gofyn i chi gysylltu â nhw ar rif drud i drefnu'r casgliad.
Gofynnir i chi gan y swyddogion Safonau Masnach beidio ffonio'r rhif yma gan y bydd yn mynd a chi i neges ffôn a chewch fil o £15 am yr alwad.
Os cewch gerdyn hefo'r manylion hyn ffoniwch y Royal Mail Fraud Line ar 0207 2396655 neu e-bostiwch ICSTIS ar www.icstis.org.uk

Rhoi adborth ar y tudalen hon