Mae Nadolig yn dod yn gynnar yn Nyffryn Clwyd. Gwneir lanteri mewn sesiynau a drefnwyd gan Gyngor Sir Ddinbych.
Dangosir y lanteri mewn ymdaith arbennig a drefnir yn Rhuthun ddydd Gwener Rhagfyr 7fed rhwng 4.30pm a 6pm.
Cynhelir sesiynau creadigol yn:
St John Ambulance Hall, Rhuthun - dydd Gwener, Tachwedd 9 rhwng 7pm a 9pm (addas i nobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed)
Canolfan Awelon, Rhuthun - dydd Mawrth, Tachwedd 13, 9.30am-12.30pm - dowch i grŵp celf Rhuthun - croeso i bawb
Canolfan Awelon, Rhuthun - dydd Mawrth, Tachwedd 13 rhwng 1.30pm a 3pm. Addas i rieni / gofalwyr a phobl ifanc a phlant bach .
Canolfan Awelon, Rhuthun - dydd Mawrth, Tachwedd 13, 3pm-6pm. Agored i bob oed - croeso i bawb.
Coleg Llysfasi - dydd Iau, Tachwedd 15, 7pm-9pm. Ymunwch a Chlwb Llanllawen - Croeso i bawb.
Noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cadwyn Clwyd a'r Undeb Ewropeaidd Leader+ programme.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Sian Fitzgerald 01824 708216.

Rhoi adborth ar y tudalen hon