Bydd Staff Adran Gyllid Cyngor Sir Ddinbych yn profi eu sgiliau chwarae golff mewn diwrnod elusen arbennig a drefnwyd i godi arian i elusen cancr y prostad.
Penderfynodd aelodau 'r tîm drefnu hyn yng nghlwb Golff Dinbych ar Hydref 26 ar ôl i rai cydweithiwr a pherthnasau ddioddef y cyflwr yn ddiweddar.
Bydd y gweithgaredd yn cynnwys golffwyr a'r rhai sydd ddim yn olffwyr a elwir yn 'hackers'.
Meddai Trina Jones, un o'r trefnwyr hefo Chris Jones a Steve Thomas :' Bu busnesau yn Sir Ddinbych yn hael iawn hefo rhoddion a gwobrau raffl a dynnir ar Dachwedd 5 a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth
'Teimlwyd bod angen codi arian i'r elusen cansr y prostad sydd wedi effeithio ar nifer o gydweithwyr a pherthnasau . Teimlwyd bod angen codi arian i elusen cansr y prostad sydd wedi effeithio ar nifer o gydweithiwr a pherthnasau. Rwy'n gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r salwch hwn trwy ddiwrnod golff elusen a chodi arian trwy gael hwyl ar yr un pryd.'

Rhoi adborth ar y tudalen hon