10/25/2007 - Gwobr gyrfau i Ysgol yn y Rhyl
Mae Staff a disgyblion Ysgol Tir Morfa, Rhyl yn dathlu cael gwobr gyrfau bwysig.
Enillodd yr ysgol wobr gyrfau 'Careers Wales Quality Award for Careers Education and Guidance and Work Related Education.'
Cyflwynwyd y wobr gan John Griffiths, dirprwy weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes mewn cyflwyniad yn Llandrindod Wells ar Hydref 25.
Cyflwynwyd portffolio o dystiolaeth yn dilyn ymweliad asesu allanol. Roedd y portffolio yn edrych ar gyrhaeddiad myfyrwyr, rheolaeth, rheolaeth pobl, partneriaethau, prosesau, Adnoddau, gwerthuso a gwelliant parhaus.
Mae'r adroddiad yn crynhoi bod Ysgol Tir Morfa yn darparu rhaglen ardderchog o safon uchel am yrfâu a gweithgareddau perthynol i fyfyrwyr mewn dull priodol a phwrpasol. Dywed fod myfyrwyr yn barod am y camau nesaf o'u haddysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Meddai'r Pennaeth Steve Murphy: “Carwn ddiolch i Phil Thomas a'i staff sy'n cyflwyno'r agweddau hyn o'r ddarpariaeth a threfnu portffolio cryf am ein gwaith.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon