| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
10/29/2007 - Ysgol yn ennill eto!

Mae Ysgol Dinas Bran wedi ennill canmoliaeth am ymwybyddiaeth ryngwladol.

Mae'r Ysgol wedi cael gwobr ysgolion rhyngwladol ac yn un o ddwy ysgol yng Nghymru  i ennill y wobr dair gwaith.

Derbyniodd Peter Williams, Cydgordiwr yr Ysgol y wobr gan y Cyngor Prydeinig mewn seremoni a gynhaliwyd yn Ninas Llundain a gyflwynwyd gan George Alygayah o’r BBC.

Rhoddir y wobr yma i ysgolion sy'n  ymroddedig i ymwybyddiaeth ryngwladol ac Addysg.

Mae Ysgol Dinas Bran wedi llunio cyswllt hefo Ffrainc, Yr Almaen , Sbaen, Hwngari, Eidal, Croatia,  Belg, Iwerddon, Aifft, Mauritius, Zimbabwe, Yemen, Nepal, India, Japan, Brazil ac UDA.

Hefyd mae'n derbyn myfyrwyr o Bolzano, ar gyswllt astudio trwy Ectarc (6ed Dosbarth) ac mae ganddo gyswllt crys hefo Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen. Mae wedi trefnu Cymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol lle mae myfyrwyr o'r Ysgol Uchaf yn cyfarfod  i drefnu diwrnodau ar themâu rhyngwladol ac yn ysgrifennu taflen ryngwladol i fynd tu mewn i gylchlythyr yr Ysgol.

Mae'r Ysgol yn dathlu cyfoeth diwylliannau eraill trwy wythnosau themâu. Cafodd wythnos Affricanaidd  ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf  a bydd yn dathlu wythnos Japaneaidd y flwyddyn nesaf.  Mae'r Ysgol yn derbyn athrawon o wledydd tramor a bydd athrawon o'r Yemen yn dod i ymweld yn ystod yr hanner tymor.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0