Mae band efydd The Little Stars Brass Band wedi cael offerynnau newydd yn ddiweddar diolch i rodd hael gan breswylwyr lleol a Chyngor Sir Ddinbych .
Cyflwynodd Mrs Elizabeth Downes gorn newydd i'r band er cof am ei diweddar ŵr. Dewiswyd Anna Drake o Ysgol Penbarras i fod yn berchennog balch o gorn .
Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi prynu dau diwba newydd i'r band – a bu Gareth Roberts o Ysgol Twm o’r Nant a James Lewis o Ysgol Brynhyfryd yn lwcus.
Ffurfiwyd y band 10 mis yn ôl gan John a Heather Powell sydd a thros 17 mlynedd o brofiad yn y busnes cerddoriaeth. Mae yn fand traddodiadol gan gynnwys corn flugel a chorn soprano.
Mae 42 o bobl ifanc yn y band rhwng 7 a 12 oed yn dod o ysgolion Sir Ddinbych gan gynnwys: Ysgol Carrog, Ysgol Penbarras (Rhuthun), Rhos Street School (Rhuthun), Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Brynhyfryd (Rhuthun), Ysgol Cyffylliog, Ysgol Caer Drewyn (Corwen), Ysgol Frongoch (Dinbych) ac Ysgol Twm o’r Nant (Dinbych).
Meddai Eleri Watkins, cyd-gordiwr Sir Ddinbych : “Rydym yn falch o gefnogi'r ensemble ardderchog yma sy'n tyfu o nerth i nerth. Mae plant o ysgolion Dyffryn Clwyd yn mynychu ymarfer yn wythnosol o dan arweinyddiaeth John a Heather Powell, dau athro teithiol o ymddiriedolaeth cerdd William Mathias.
“Diolch yn fawr i Julian Whittaker, Pennaeth Cerdd Ysgol Brynhyfryd am ei gefnogaeth ardderchog.
Bydd The Little Stars Band yn rhan o gyngerdd Nadolig Ysgol Brynhyfryd a bydd hefyd yn cymryd rhan o wasanaeth carolau Cyngor Sir Ddinbych yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar 10fed Rhagfyr.

Rhoi adborth ar y tudalen hon