| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cymorth Casglu
Polisi casglu hefo cymorth

Er mwyn gwarantau casgliad, mae angen rhoi'r gwastraff wrth flaen eich eiddo erbyn 07.00 ar y diwrnod casglu.

Os bydd person yn gorfforol yn methu symud eu cist olwyn / sach sbwriel / blwch ailgylchu i'r man casglu dynodedig ac os nad oes unrhyw un ar gael yn yr eiddo sy'n gallu mynd a'r sbwriel allan iddyn nhw, yna mae gwasanaeth casglu hefo cymorth ar gael.

Gellir anfon ceisiadau am gasglu hefo cymorth trwy lenwi'r ffurflen gais am gymorth a'i hanfon at :

Cyngor Sir Ddinbych,
Cais am gymorth wrth gasglu,
Depo Parc Cinmel,
Bodelwyddan,
Sir Ddinbych,
LL18 5UX
(Gallwch gael ffurflen gais yn y Siopau Un Alwad).

Rhaid anfon llythyr cefnogi hefo eich cais am gymorth gan berson cymwys (e.e. gofalwr iechyd, gweithiwr Gwasanaethau Cymdeithasol neu berson cyfrifol arall).

Os caniateir casglu hefo cymorth byddwn yn casglu sbwriel o fan penodol a gytunir hefo perchennog y tŷ. e.e. tu allan i'r drws cefn neu ar y dreif o flaen drws y modurdy etc.
Rhaid i'r man casglu fod tu allan i'r eiddo. Ni chaniateir i'r swyddogion casglu sbwriel fynd i mewn i adeiladau (gan gynnwys modurdai, siediau neu dai allan) er mwyn symud sbwriel. 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0