Mae pentref Dyserth yn gorwedd islaw llethrau Moel Hiraddug-sydd wedi'i ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol eithradol er 1985. Mae'i lecynnau blodau gwyllt yn lloches i bethau prin megis fioledau a thegeirianau gwyn tra uwchben fe allech weld y boncath ac, os ydych chi'n lwcus iawn, yn hebog tramor.
Mae'r enw Dyserth wedi datblygu o'r 'Dissart' gwreiddiol, sy'n golygu 'cell meudwy' ac a grybwyllwyd yn Llyfr Domesday yn 1086. Mae'r pentref yn llawn hanes ac mae olion preswylwyr cynharach yn frith o amgylch y dirwedd- o fryngaer gyn- Rufeinig hynafol ar gopa Moel Hiraddug i etifeddiaeth ddiwydiannol y chwareli a'r odynau calch.
Bu ymwelwyr yn dod i Ddyseth ers y 18fed ganrif i fwynhau'r awyr iach, gan ei fod wedi'i leoli rai cannoedd o droedfeddi uwchben lefel y mor. Mae'r pentref yn adnabyddus am ei raeadr ysblennydd sy'n disgyn saith deg troedfedd o Afon Ffyddion yng nghanol y pentref gerllaw'r eglwys. Mae siop a chaffi'r rhaeadr ar agor o fis Mawrht tan fis Hydref.
Mae'r llyfryn hwn yn cynnws pum taith gerdded yn Nyserth a'r cyffiniau. Gobeithio y gwnwech chi eu mwynhau.

Rhoi adborth ar y tudalen hon