| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
10/29/2007 - Arddangosfa llofnodion
Bydd Yr Hen Garchar Rhuthun yn cynnal arddangosfa gan David Gepp sef “Autographs from Llangollen” bob penwythnos  o ddydd Sadwrn Tachwedd 3ydd hyd ddydd Sul 2il Rhagfyr.
Mae'r arddangosfa yn dangos lluniau o lofnodion a nodir o dan y Bont Haearn yng ngorsaf y Berwyn, Llangollen.
Daw'r llofnodion o'r rhyfel mawr, pan oedd bechgyn ifanc yn aros am y trên i fynd i'r rhyfel. Mae enw ar rai a sylwadau ar eraill megis ‘Berlin last stop’. Mae rhai yn eglur ond eraill yn anodd eu deall.
Mae'r cofnod hwn yn dangos yr hen ffordd o fyw a storiâu pobl go iawn. Beth ddigwyddodd i James Candy? Does dim carreg fedd.
Bydd ar arddangosfa yn agored o 10am hyd 5pm bob penwythnos  . Mynediad £3.50 i Oedolion a £2.50 Consesiwn.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0