Mae gan Sir Ddinbych y record orau yng Nghymru am y nifer o oedi trosglwyddo achosion gofal am resymau Gofal Cymdeithasol yn ardal yr Awdurdod.
Mae'r timau Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth hefo'r gwasanaethau iechyd i hyrwyddo gadael pobl allan o'r ysbyty trwy ddarparu amrediad eang o gymorth Gofal Cymdeithasol yn y cartref.
Mae'r sir ar y brig dros y pedair mlynedd ddiwethaf am gael un o'r cyfraddau isaf o oedi trosglwyddo achosion ar draws y Sir. Mae ffigyrau am 06/07 yn dangos 0.72 o achosion am bob 1,000 o'r boblogaeth dros 75 oed (sy'n cyfateb i 7 oedi gan gynnwys 6 o bobl).
Unwaith y gadewir y claf allan o'r ysbyty, gall Sir Ddinbych ddarparu amrediad eang o wasanaethau gofal, sy'n gallu cynnwys asesiadau, gofal cartref, therapi galwedigaethol a darparu offer.
Mae'r Cyngor Sir yn gweithio'n glos hefo'r sector wirfoddol a threfnwyd cynllun cartref o'r ysbyty mewn partneriaeth hefo'r Groes Goch Brydeinig.
Meddai Neil Ayling, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ddinbych: “Mae'r ffigyrau isel o oedi trosglwyddo achosion gofal oherwydd Gofal Cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn dyst o'r bartneriaeth waith ardderchog rhwng y Cyngor a'i bartneriaeth iechyd i ddarparu gofal gwahanol a chymorth i gleifion unwaith eu bod yn barod i gael eu gollwng allan.
“Y pwyslais yw rhoi cymorth ymarferol trwy fesurau eang i gynnal pobl yn eu cartref a pharhau i fyw bywyd annibynnol trwy dderbyn gwasanaethau cynnal gan y Cyngor Sir a'i bartneriaid iechyd.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon