Mae diwrnodau treftadaeth Dyffryn Clwyd yn boblogaidd iawn yn ôl adroddiad gan gannoedd o bobl a ddaeth i Ddinbych a Rhuthun ym mis Medi.
Bu Dinbych, Dolbelydr a waliau tref Dinbych yn atyniadau twristiaeth poblogaidd a bu Castell Rhuthun a'r sioe ganoloesol yn boblogaidd hefo rhieni a phlant. Hefyd bu teithiau Beatrix Potter a dangos ffilm o 1996 “Miss Potter” yn llwyddiant ysgubol!
Bu pobl yn dilyn H M Stanley wrth gerdded o amgylch ei dref enedigol. Meddai un ymwelydd “Dwi wedi mwynha'r daith yn fawr iawn. Roedd yr actor a bortreadodd Stanley yn ardderchog ac atebodd sawl cwestiwn yn ddi drafferth.”
Yn Rhuthun, mae Nantclwyd y Dre, y Castell a'r Hen Garchar yn atyniadau twristiaeth poblogaidd tra bod teithiau canoloesol Trosedd a Chosb yn llwyddiant mawr .
Agorodd Bizarre Furniture ei ddrysau a dangoswyd dwy gadair Eisteddfodol – un a luniwyd gan Ian Pickstock o Bizarre at Eisteddfod Yr Wyddgrug.
Meddai un ymwelydd i Ruthun, “Dyma ein pumed blwyddyn yn mynychu penwythnos treftadaeth. Roedd Nantclwyd yn hynod ddiddorol ar ôl i ni weld ei ddatblygiad dros y blynyddoedd.”
Mae dros 100 o bobl wedi llenwi ffurflen adroddiad a chystadlu i ennill set o lyfrau hanes am Ddyffryn Clwyd a Gogledd Cymru. Yr enillydd oedd Frances Jackson o Ruthun a chyflynwyd gwobr iddi gan Llinos Davies o Lyfrgell Rhuthun y mis yma .
Roedd yn rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod o Ddyffryn Clwyd ond daeth canran dda o ymwelwyr o ardaloedd eraill Gogledd Cymru, swydd Gaer, Shropshire a glannau Merswy.
Dyddiadau 2008 yw Dinbych 20 & 21 a Rhuthun 27 & 28 Medi.
Mae'r penwythnosau hyn yn bosibl trwy ymdrechion Cymdeithas Ddinesig Dinbych, Cymdeithasol ddinesig Rhuthun a'r Fro, Cyngor Tref Dinbych, Cyngor Tref Rhuthun a Chyngor Sir Ddinbych a chafwyd cyfraniad gan y perchnogion a gwirfoddolwyr. Darparwyd nawdd gan Gronfa'r loteri, Amcan 1, Cadwyn Clwyd, Cyngor Tref Rhuthun a Chyngor Tref Dinbych.

Rhoi adborth ar y tudalen hon