| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Mynediad at Wybodaeth Polisi a Threfniadau Codi Tâl

Mynediad at Wybodaeth Polisi a Threfniadau Codi Tâl

Cred Cyngor Sir Ddinbych bod mynediad cyhoeddus at ei wybodaeth yn gwella dealltwriaeth a chryfhau hyder yn y gwaith a ymgymerir ganddo. Mae'r Cyngor yn annog yn gryf ddiwylliant o fod yn agored ac atebol o fewn y gyfundrefn ac yn ceisio rhyddhau cymaint o wybodaeth ag y bo modd, yn gyffredinol ac mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth.  Amcan y polisi hwn yw sicrhau bod Cyngor Sir Ddinbych yn gweithredu trefn gyson a theg o godi tâl am fynediad at wybodaeth.

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylchedd a'r Ddeddf Diogelu Data yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus godi tâl am ateb ceisiadau am wybodaeth mewn rhai achosion. Amcan y polisi hwn yw pennu'r ffďoedd i'w codi gan Gyngor Sir Ddinbych am geisiadau o'r fath, ac mae'n amlinellu:

  • Pryd y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn codi tâl
  • Sut caiff ffďoedd eu cyfrifo
  • Y trefniadau a ddilynir
Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0