| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/01/2007 - Llwyddiant trosglwyddo gofal

Mae gan Sir Ddinbych record ymysg y gorau am nifer y trosglwyddiadau achosion gofal a ohiriwyd am resymau gofal cymdeithasol yn ardal yr awdurdod.

Mae timau Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth iechyd i hwyluso rhyddhau pobl o ysbyty drwy ddarparu ystod eang o gefnogaeth gofal cymdeithasol yn y cartref.

Mae’r sir wedi bod yn gyson yn y ddau safle uchaf dros y pedair blynedd ddiwethaf am fod â’r graddfeydd isaf ar draws y wlad o achosion o ohirio trosglwyddiadau.  Mae ffigurau am 06/07 yn dangos 0.72 o achosion y 1,000 o’r boblogaeth sy’n 75 neu drosodd (sy’n cyfartalu i 7 oediad oedd yn ymglymu chwech o bobl.)

Unwaith y bydd claf yn cael ei ryddhau o ysbyty, gall Sir Ddinbych ddarparu ystod eang o wasanaethau gofal cymdeithasol, a all gynnwys asesiadau, gofal cartref, therapi galwedigaethol a darpariaeth cyfarpar.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0