| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
10/29/2007 - Cyhoeddi ymgeisydd i fod yn Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych

Mae  Sir Ddinbych wedi cyhoeddi enw un ymgeisydd a enwebwyd i fod yn Arweinydd yr Awdurdod.
Yr enwebiad yw'r Cynghorydd Hugh Evans, Aelod Annibynnol o Lanelidan sy'n cynrychioli Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern.  Llofnodwyd gan :
•Jeanette Chamberlain Jones (Arweinydd y grŵp Llafur)
•Michael German (Arweinydd y Gynghrair Ddemocratiaid / Democratic Alliance of Wales)
•John Smith (Ysgrifennydd y grŵp Annibynnol)
•Dewi Owens (Arweinydd y grŵp Ceidwadwyr)
•Gwyneth Kensler (Arweinydd grŵp Plaid Cymru)
•Bob Barton (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru / Welsh Liberal Democrat)
•Paul Marfleet (Annibynnol heb gyswllt)
Bydd y Cynghorwyr yn dod i Gyfarfod Arbennig yn Neuadd y Sir , Rhuthun ddydd Mawrth, Tachwedd 6ed am 10am i bleidleisio ar yr enwebiad.  
Swydd gyntaf yr Arweinydd newydd fydd penodi Cabinet newydd.   
Daw'r enwebiad ar ôl i gynghorwyr Sir Ddinbych nodi pleidlais o ddim hyder yn yr Arweinydd blaenorol a'i Chabinet.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0