11/05/2007 - Ysgol yn Ninbych yn cau dros dro
Mae Pennaeth Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych wedi cau tros dro heddiw - dydd Llun oherwydd oglau ffiwmiau yn dilyn gwaith peintio dros y gwyliau hanner tymor.
Aeth Geraint Davies i'r Ysgol ddydd Sadwrn, ac ar ôl ogleuo'r ffiwmiau penderfynodd gau'r Ysgol heddiw oherwydd Iechyd a Diogelwch a chysylltodd a rhieni dros y penwythnos i ddweud hynny wrthyn nhw.
Credir bod paent atal fflamau a ddefnyddiwyd ar y nenfwd yn gollwn ffiwmiau. Mae arbenigwyr o gwmni ym Manceinion yn yr Ysgol heddiw i gywiro'r sefyllfa a gobeithir agor yr ysgol fel arfer yfory - dydd Mawrth.
Hoffai Cyngor Sir Ddinbych ddiolch i rieni am eu cydweithrediad ar y mater hwn.

Rhoi adborth ar y tudalen hon