| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/05/2007 - Cynllun Estyn ar ei ffordd

Gall Cyngor Sir Ddinbych gadarnhau fod y copi o'r Cynllun Gweithredol,gynhyrchwyd mewn ymateb i ganfyddiadau arolwg Estyn i dri o wasanaethau addysg y sir wed cael ei yrru at Estyn a Llywodraeth y Cynulliad.

Mae'r Cynllun yn amlygu'r camau y mae'r Cyngor yn fwriadu ei gymryd yn sgil adroddiad Estyn, gyhoeddwyd fis Medi, oedd yn rhoi sylw at  faterion o berfformiadau gwael mewn ysgolion, arweinyddiaeth a rheolaeth ar bob lefel o fewn yr Awdurdod a'r defnydd o adnoddau.

Mae'r Cynllun yn nodi y bydd y Cyngor, dros y bum mlynedd nesa, yn:
Gwella cyrhaeddiadau disgyblion, i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru ym mhob Cyfnod Allweddol
Gwelliant mewn cyfraddau presenoldeb, i fod yn well na chyfartaledd Cymru
Lleihau nifer gwaharddiadau disgyblion o ysgolion, i fod yn is na chyfartaledd Cymru
Gwella arweinyddiaeth a rheolaeth ar sail cyfathrebu effeithiol gyda rhan-ddalwyr, yn enwedig cynghorwyr ac ysgolion, gan arwain at wella perfformiad ar bob lefel
Cyflwyno fframwaith rheolaeth perfformiad cadarn sy'n rhoi cymorth i wella pob agwedd o'n gwaith
Sicrhau fod cynlluniau yn cael eu monitro, mesur ac yn barod i'w cyflwyno
Cyflwyno Strategaeth Gyfathrebu ac Ymgynghori
Adolygu gwasanaethau er mwyn ail-ffocysu ariannu ac adnoddau ar flaenoriaethau
Dyrannu arian ychwanegol, cefnogaeth i ysgolion a chynyddu'r gallu mewnol i gwrdd a'n targedau.

Dywedodd Ian Miller, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: 'Mae'r Cynllun Gweithredol drafft yn cynnwys datganiad o fwriad, gymeradwywyd gan y Cyngor fis diwethaf, sy'n dangos ymrwymiad y Cyngor i weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a phrif ran-ddalwyr i gael gwell canlyniadau gan blant a phobl ifanc. Ein gweledigaeth yw fod pob ysgol yn y sir yn cyflwyno gwasanaethau o'r radd flaenaf. Rydym yn derbyn bod angen newidiadau radical.

'Mae'r Cyngor wedi sicrhau fod gwelliannau ysgolion ac addysg yn cael y flaenoriaeth fwyaf ac bydd yn cyflwyno'r cynllun ôl adroddiad yn gadarn drwy weithio mewn partneriaeth i fonitio, herio a chefnogi gwelliant mewn cyrhaeddiadau addysgol.'

Mae'r Cynllun yn dangos y bydd y Cyngor yn dyrannau adnoddau o leiafswm o £700k yn 2008-2009, gyda chyngion pellach i gael eu cysidro gan gynghorwyr fel rhan o'r broses gyllido rhwng nawr a Chwefror.  Mae'r ymrwymiad hwn yn cynnwys ail gynllun o £290k o arian ychwanegol ar gyfer ysgolion uwchradd, mewn ymateb i adroddiad Pricewaterhourse Cooper ar gyllido ysgolion yn 2006.

Does dim dyddiad wedi ei gyhoeddi eto ar pryd y bydd y Cyngor yn derbyn adborth gan Lywodraeth y Cynulliad nag Estyn.

 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0