| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Ymgynghoriadau wedi cau

Gellir gweld unrhyw ymgynghoriadau'r cyhoedd sydd wedi cau yma.  Byddwch yn ymwybodol fod y dogfennau yma nawr wedi cau a dydi hi ddim yn bosib rhoi adborth amdanynt.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych – asesiad a chynllun drafft

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych wedi cwblhau eu hail asesiad strategol. Mae'r asesiad strategol yn cynnwys gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru. Mae gofyn ymgynghori hefo’r gymuned ar y materion hyn i sicrhau bod y blaenoriaethau’n adlewyrchu cymunedau Sir Ddinbych. Ar gau Mawrh 2009.

Strategaeth Cartrefi Gwag Drafft
Mae'r ddogfen hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer dod â chartrefi gwag y Sir yn ôl i gyflwr lle gellir eu defnyddio, dros y tair blynedd nesaf. Mae'n amlinellu agwedd ragweithiol, gydgysylltiedig tuag at ddelio â phroblem cartrefi gwag gyda'n partneriaid Cymdeithas Tai Gogledd Cymru. Ar gau, Mawrh 2009.

Cynlluniau addysg - helpwch i wneud gwahaniaeth

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i foderneiddio addysg yn y Sir fel y gall plant a phobl ifanc gael addysg o’r radd flaenaf. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael adeiladau modern sy’n ffit i’r pwrpas ac sy’n cyfarfod ag anghenion addysg y byd modern. Mae angen i ysgolion allu darparu’r profiad dysgu gorau posib, i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau sydd ar gael iddyn nhw a’u bod yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.
Mae’r cyngor wedi dyfeisio 10 o bolisïau newydd a fydd yn cael eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer y fframwaith Moderneiddio Addysg. Mae’r polisïau hyn yn dal ar ffurf drafft ac rydym yn awyddus i gael eich barn. Ar gau Ionawr 12sed.

Cymuned Diogelwch - Gatiau Alley 

Rydym yn ystyried gosod mwy o gatiau ali yn Sir Ddinbych. Y broses yw bod pobl leol neu Aelodau Etholedig yn gofyn am gael gatiau i ymateb i broblemau yn eu Cymuned. Rydym wedi arolygu'r ardal a phenderfynwyd y gallai gatiau ali fod o gymorth. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gadael i chi, y gymuned, wybod beth sy'n cael ei ystyried gan ganiatáu i chi wneud sylwadau. Ar gau Rhagfyr 7, 2008.

Flaenoriaethau Cyngor Sir Ddinbych
Os ydym i wneud newidiadau gwirioneddol mae angen i ni wneud llai o bethau, ond eu gwneud yn dda.  Mae Cynghorau sydd â ffocws cynaliadwy ar yr hyn sy’n cyfri yn fwy tebygol o wella na’r rhai sy’n gosod blaenoriaethau ac yna’n methu cadw ar y llwybr drwy’r newidiadau.  Blaenoriaethu yw’r ffordd y bydd cynghorau’n penderfynu lle i ganolbwyntio eu hadnoddau prin, yn cynnwys amser rheoli ac ymdrech.  Mae’r gwaith dyddiol o gyfarfod â dyletswyddau statudol y cyngor yn parhau, ond mae blaenoriaethau cyngor yn pwyntio tuag at y meysydd allweddol y mae’r cyngor am eu newid.  Ar gau Medi 15, 2008.

Mae cynllun hawliau tramwy Sir Ddinbych ar gael yn awr ar wefan y Cyngor fel dogfen ymgynghorol.

Mae'r ddogfen hon yn gosod allan sut fydd y Cyngor Sir yn rheoli ac yn gwella rhwydwaith a mynediad i gefn gwlad dros y deng mlynedd nesaf, a sut y bydd yn cynorthwyo i wella'r economi wledig a dod ag iechyd, mwy o wybodaeth amgylcheddol a bod yn ffynhonnell o fwynhad i'r cyhoedd.  Ar gau - 31 Awst 2008.

Cynllun Datblygu Cyn-adneuo

Bydd ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol Cyn-adneuo (gan gynnwys y Strategaeth a Ffefrir) yn cychwyn ar 2il Mehefin 2008 ac yn dod i ben am 5pm ar 1af Awst 2008.  Bydd hyn yn pennu lefel twf cyffredinol ar gyfer y Sir hyd at 2021, ac yn rhoi syniad o ble bydd y twf newydd yn debygol o gael ei leoli.
Am wybodaeth pellach cliciwch ar y cyswllt yma

Cefnogi Gofalwyr yn Sir Ddinbych - Strategaeth ddraft ar gyfer gwelliant

Daeth yr ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft ar Gefnogi Gofalwyr i ben ar Fehefin 30 2008. Dilynwch y linc hwn i'r dudalen cywir, mae'r strategaeth ar gael ar waelod y dudalen.

Cadarnhad o is Ddeddfau

Rhoddir rhybudd bod Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu, ar ôl i'r cyfnod a nodir isod ddod i ben, wneud cais at yr Ysgrifennydd Gwladol am gadarnhau'r is-ddeddfau a wnaed gan y Cyngor mewn cyswllt a Chyflogi Plant. I weld yr ddogfen clicwch yma.

Holiadur Ailgylchu

Gyda diwedd y contract ailgylchu ar ddod a thargedau newydd gan Gynulliad Cymru, mae gennym gyfle i newid ein ffordd o ailgylchu.
Mae'r Cyngor Sir yn cydnabod y bydd pob preswylydd angen gwasanaeth ailgylchu. Er bod costau am ddarparu casgliad ychwanegol, bydd cost peidio ailgylchu (e.e. costau uchel casglu gwastraff a chosb am fynd dros y cyfyngiad tirlenwi) hyd yn oed yn fwy.Ar gau.

Angen barn ar addysg ôl 16 yn Y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio ymgynghoriad swyddogol ar gynlluniau i ad-drefnu addysg ôl 16 yn y Rhyl.

Cyfle i ymateb i adroddiad newydd ar chwareli

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi cael eu annog i ymateb i adroddiad ar ddyfodol y darpariaeth o bob math o gerrig a thywod wedi ei gloddio ar draws gogledd Cymru tan y flwyddyn 2021. 

Asesiad Strategol O Drosedd Ac Anrhefn Yn Sir Ddinbych

Rydym wedi cwblhau Asesiad Strategol o Drosedd ac Anrhefn yn Sir Ddinbych ac rydym nawr am rannu ein canlyniadau.  Rydym wedi drafftio nifer o flaenoriaethau ac rydym wedi ymgynghori arnynt. Dilynwch y linc yma i gael mwy o wybodaeth.

Eich Arian, Eich Llais - Holiadur Am y Sioe Ffordd Cyllideb

Ar gau - Chwefror 5, 2008.

Moderneiddio Addysg

Mae Cyngor Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ei raglen Moderneiddio Addysg, sydd yn edrych ar y modd y dylai addysg gael ei datblygu i gwrdd ag anghenion system addysg fodern yr 21 Ganrif. Y Dyddiad cau am yr ymgynghoriad oedd Rhagfyr 14
 

Ymghynhoriad  Cyhoeddus - Cymuned Diogelwch - Gatiau Alley
Rydym yn ystyried gosod mwy o gatiau ali yn Sir Ddinbych. Y broses yw bod pobl leol neu Aelodau Etholedig yn gofyn am gael gatiau i ymateb i broblemau yn eu Cymuned. Rydym wedi arolygu'r ardal a phenderfynwyd y gallai gatiau ali fod o gymorth. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gadael i chi, y gymuned, wybod beth sy'n cael ei ystyried gan ganiatáu i chi wneud sylwadau. Y Dyddiad cau am yr ymgynghoriad oedd Rhagfyr 21ed.

Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy a Chynllun Gweithredu Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd

Mae yr archwiliad wedi bod ar gael i ymgynghori. Dilynwch y linc yma i gael mwy o wybodaeth. Ar gau - Tachwedd 28,  2007.
 

Strategaeth cyd comisiynu i bobl hyn - nawr wedi cau

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych wedi drafftio dogfen sydd yn amlinellu cynlluniau ar sut mae’r ddau sefydliad yn gallu gweithio hefo’i gilydd er lles bobl hyn y sir.  I wylio'r ddogfen dilynwch y linc yma i’r tudalen perthnasol Y Dyddiad cau am yr ymgynghoriad oedd 23ain Tachwedd 2007.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0  
  Logo DirectGov