| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/05/2007 - Llythyrau rhyfel

Mae llythyrau gan filwyr o'r rhyfel Byd Cyntaf yn rhan o arddangosfa Archifdy Yr Hen Garchar hyd ddiwedd mis Tachwedd.
Mae'r arddangosfa ddwyieithog ‘ Writing home…nos dawch i gyd’ yn cynnwys llythyrau a chardiau gan filwyr mewn gwersylloedd hyfforddi ym Mhrydain ac sydd ar wasanaeth yn y ffosydd.


Cynhwysir milwyr o ardal Rhuthun, Llanfair Dyffryn Clwyd, Derwen a Rhuddlan.  


Rhai o'r llythyrau mwyaf rhyfeddol yw gan y milwr  William Jones o Banciau, Derwen ger Corwen i'w rieni, a gan y milwr Harry Jones o Ruthun i'w wraig, Elizabeth.


Mae Harry Jones,  yn ei llythyrau yn sôn gan ganu carolau Nadolig i'r Almaenwyr yn eu ffosydd. Bu farw'r milwyr yn nes ymlaen yn Ffrainc.


Mae'r arddangosfa am ddim ac yn agored yn ystod oriau swyddfa arferol .

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0