| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
11/05/2007 - Archfarchnad yn dod i Brestatyn

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud ei fod yn falch bod siop Tesco newydd yn cael ei hadeiladu ar Stryd Fawr Prestatyn ar ôl blynyddoedd o negodi, i hybu adfywio'r dref.

Mae cyfreithwyr ar ran Somerfield wedi rhoi gwybod i'r Cyngor Sir na fydd yr archfarchnad yn apelio yn erbyn dyfarniad Llys barn yn ddiweddar a gefnogodd benderfyniad Sir Ddinbych i ddefnyddio ei bwerau prynu gorfodol i gael tir ar ran Tesco, i ganiatau i'r cynllun archfarchnad newydd symud ymlaen.

Mae Tesco wedi methu prynu tir gan gynnwys tir sy'n eiddo i Somerfield a gofynnwyd i Sir Ddinbych ddefnyddio ei bwerau prynu gorfodol i gael yr holl dir sydd ei angen i'r siop newydd.

Meddai Gareth Evans, Pennaeth Datblygu Sir Ddinbych: 'Rydym yn falch o'r newyddion na fydd Somerfield yn apelio a rhoi'r golau gwyrdd i Tesco i weithredu ar eu caniatâd cynllunio ac adeiladu siop newydd ar y Stryd Fawr .  

“Aeth y drafodaeth ymlaen am yn hirach nag a ragwelwyd a defnyddiodd Cyngor Sir Ddinbych ei bwerau prynu gorfodol i adfywio canol y dref a'i drosglwyddo fel canolfan manwerthu Gogledd Sir Ddinbych a gwella'r  tirlun.'

 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0