Caiff goleuadau wal tref Dinbych eu goleuo'n swyddogol yr wythnos nesaf.
Bydd Maer Dinbych, y Cynghorydd Colin Hughes, yn eu goleuo dydd Mawrth Tachwedd 13eg am 5:45 p.m.
Noddwyd y goleuadau gan DESSERT yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Tref Dinbych hefo cymorth gan grŵp busnes tref Dinbych.
Mae DESSERT (Denbighshire Evening and Shoulder Season Encouraging Regeneration and Tourism) yn brosiect Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.
Mae' r prosiect yn ceisio annog gwaith ym mhob tref yn Sir Ddinbych yn ystod amser tawel megis gyda'r nos a misoedd y gaeaf .
Gosodwyd goleuadau Sir Ddinbych yn dilyn arddangosfa a gefnogwyd gan Gynghorwyr, grŵp busnes tref Dinbych, cymdeithas preswylwyr ardal y Castell a 'r cyngor tref .
Bydd y goleuadau newydd yn ychwanegol at oleuadau'r Cyngor Sir yn gwneud y waliau yn fwy hygyrch a dod a mwynhad a budd i'r dref. Bydd y waliau i'w gweld o bellter a bydd yn tynnu pobl i'r dref.
Dowch i weld hyn ym mharc Bryn ar dop Bull Lane , Dinbych am 5:45 p.m. dydd Mawrth, Tachwedd 13 2007.

Rhoi adborth ar y tudalen hon